Ymgyrch gan yr NFCU yn arwain at arestio unigolyn ar ddrwgdybiaeth o werthu gwin ffug gwerth £500,000
Aeth swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) i gyfeiriad yn Essex ddydd Iau, 20 Awst, gyda chymorth y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd a arestiodd unigolyn.
Image of wine bottles stored in a wooden rack.
Cafodd dyn 34 oed ei arestio ar ddrwgdybiaeth o dwyll trwy gamgyfleu, yn gysylltiedig â chyflenwi gwin dan amheuaeth o fod yn ffug.
Mae’r dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth ac mae ymholiadau’n parhau.
Cafodd gwin, dan amheuaeth o fod yn ffug, ei werthu i unigolyn diniwed – 55 o boteli, am bron i £10,000 fesul potel, gan ddod i dros hanner miliwn o bunnoedd.
Dywedodd Simon Ashwin, Uwch-ymchwilydd yr NFCU yn yr ASB:
Does dim esgus dros y math hwn o drosedd bwyd. Mae pobl yn disgwyl cael yr hyn maen nhw wedi talu amdano, nid potel o win sydd o bosib yn ffug.
Mae rhywun wastad yn dioddef yn sgil trosedd fel twyll bwyd. Gall achosi niwed ariannol sylweddol yn ogystal â niwed sylweddol i enw da busnesau gonest sy’n cael eu dal gan dwyllwyr.
Rydym yn annog busnesau i wirio eu cyflenwyr a gwneud eu gwaith cartref i helpu i sicrhau bod y cynhyrchion maen nhw’n eu prynu yn gyfreithlon. Rydym yn parhau i weithio gyda’r heddlu a phartneriaid i helpu i atal troseddau bwyd a dod o hyd i dwyllwyr bwyd, fel bod busnesau a defnyddwyr yn cael eu diogelu.