Plant ysgol i dderbyn offer TG diolch i DVLA
Bydd plant ysgol ledled Abertawe yn derbyn offer TG wedi’u hailgylchu diolch i bartneriaeth ddigidol arloesol rhwng y DVLA a Chyngor Abertawe.

Mae offer TG wedi’u rhoi fel rhan o Gynllun Cynhwysiant Digidol newydd y DVLA, sy’n ceisio rhoi offer digidol nad oes eu hangen ar DVLA bellach i awdurdodau lleol i’w ailddosbarthu i ysgolion ledled Cymru. Cyngor Abertawe yw’r rhai cyntaf i dderbyn y cynllun.
Mae’r cynllun yn cefnogi twf sgiliau digidol hanfodol i bawb ac yn helpu i sicrhau nad yw dysgwyr ifanc yn wynebu allgáu digidol.
Dywedodd Prif Weithredwr DVLA, Julie Lennard:
Rwy’n hynod falch o’r cynllun newydd hwn ac rwy’n falch iawn mai Cyngor Abertawe yw’r cyntaf i dderbyn ein gliniaduron a roddwyd gennym. Mae cynhwysiant digidol yn allweddol i sicrhau bod gan bob disgybl fynediad at y dechnoleg sydd ei hangen arnynt i ddatblygu sgiliau digidol drostynt eu hunain a’r rhanbarth.
Ein nod yw cyflwyno’r cynllun ledled Cymru ac annog pob awdurdod lleol i gofrestru ac ymuno â chynllun Cynhwysiant Digidol y DVLA.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:
Rwy’n falch iawn mai Abertawe yw’r awdurdod lleol cyntaf i ddechrau gweithio gyda’r DVLA ar y cynllun Cynhwysiant Digidol fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod gan ein holl ysgolion a disgyblion fynediad at ddyfeisiau digidol gartref ac yn yr ysgol.
Mae rhai disgyblion eisoes yn defnyddio’r offer a bydd llawer mwy yn elwa ynghyd â’u teuluoedd, felly hoffwn ddiolch i’r DVLA am ein cynnwys yn y fenter gymunedol wych hon.
Mae’r Cynllun Cynhwysiant Digidol hefyd yn cefnogi economi gylchol ar waith. Mae ailbwrpasu offer TG yn ymestyn oes gliniadur, gan helpu i leihau nifer y peiriannau sy’n cael eu gwaredu. Mae’r weithred hon yn helpu i leihau allyriadau carbon DVLA tuag at sero net.
Mae’r cynllun yn agored i ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru. I ymuno â’r cynllun, gall awdurdod lleol gofrestru nawr drwy wefan Stem y DVLA.
Nodiadau i olygyddion:
- Mae’r holl ddyfeisiau a roddir o dan y cynllun yn cael eu glanhau yn unol â safonau cytûn y llywodraeth ac yn cael darparu â thrwyddedau system weithredu drwy’r rhaglen Microsoft Authorised Refurbisher.
- Cafodd y 90 gliniadur a roddwyd eu hailgylchu’n llwyddiannus gan E-Cycle a’u rhoi i Gyngor Abertawe drwy ein mentrau Gwyddoniaeth, Technoleg. Peirianneg a Mathemateg (STEM) eleni.
- Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn a’r holl fentrau eraill ar gyfer rhaglenni STEM, gan gynnwys digwyddiad Her Godio DVLA 2022 eleni, i’w gweld ar wefan STEM DVLA..
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407