News story

RWM yn lansio menter gydweithredol newydd i arwain ymchwil arloesol i waredu daearegol

Swyddfa Cymorth Ymchwil a sefydlwyd mewn partneriaeth â Phrifysgol Manceinion a Phrifysgol Sheffield

Researcher at Manchester University

Mae Radioactive Waste Management wedi lansio’r Swyddfa Cymorth Ymchwil (RWM RSO) i harneisio amrywiaeth helaeth y DU o alluoedd ymchwil ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg geo-gwaredu. Bydd y Swyddfa Cymorth Ymchwil yn rhoi tystiolaeth gadarn, annibynnol o’r radd flaenaf i RWM i lywio ei waith ym maes diogelwch a dylunio i gefnogi cyflwyno Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn y DU. Mae’r Cyfleuster Gwaredu Daearegol yn rhwydwaith o gladdgelloedd a thwneli sydd wedi cael eu hadeiladu i lefel beirianegol i mewn i’r creigiau, cannoedd o fetrau dan y ddaear. Mae wedi’i gynllunio i waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn ddiogel ac am byth.

Dywedodd Lucy Bailey, Pennaeth Swyddfa Cymorth Ymchwil RWM:

I am thrilled to be leading this exciting new initiative for RWM. Through the RSO we will harness the best research expertise across the UK to build the knowledge and understanding required to underpin the safety case to deliver a GDF that deals permanently with the UK’s higher-activity waste.

Cyfieithu:

Rwy’n falch iawn o arwain y fenter newydd gyffrous hon ar gyfer RWM. Drwy’r Swyddfa Cymorth Ymchwil byddwn yn harneisio’r arbenigedd ymchwil gorau ledled y DU i feithrin yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i roi sail i’r achos diogelwch i ddarparu GDF sy’n delio’n barhaol â gwastraff uwch ei actifedd y DU.

Mae gwaredu daearegol yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel yr ateb tymor hir gorau i ddelio â gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd. Dyma’r dull sydd wedi cael ei ddewis mewn gwledydd fel Sweden, y Ffindir, Canada a Ffrainc, ac mae rhai o’r gwledydd hyn wrthi’n prysur ddatblygu eu Cyfleusterau Gwaredu Daearegol eu hunain. Er mwyn helpu i ateb yr her hon yn y DU, bydd y Swyddfa Cymorth Ymchwil yn canolbwyntio ei ymchwil ar naw thema sy’n ymwneud â’r canlynol: gweithgynhyrchu uwch; mathemateg gymhwysol; gwyddor gymdeithasol gymhwysol; gwyddor amgylcheddol; geowyddoniaeth; gwyddor deunyddiau; cyfathrebu gwyddoniaeth yn gyhoeddus; radiocemeg; a hyfforddiant. Cefnogir timau mewn prifysgolion partner gan oddeutu £20m o gyllid dros gyfnod o hyd at 10 mlynedd, i ymgymryd ag ymchwil sy’n seiliedig ar anghenion yn y meysydd hyn.

Bydd y bartneriaeth hon hefyd yn cefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a chymuned barhaus o arbenigwyr pwnc ar gyfer gwaredu daearegol. Bydd cael yr wybodaeth a’r arbenigedd hwn wedi’u cydlynu ar draws sefydliadau academaidd y DU yn galluogi RWM a grŵp yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, rheoleiddwyr a’r gadwyn gyflenwi i fanteisio ar yr arbenigedd, yr ymchwil a’r syniadau academaidd diweddaraf.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith yr RSO, dilynwch nhw ar Twitter neu ewch i’w gwefan

I gael mwy o wybodaeth am waredu daearegol, ymwelwch â ni ar ein gwefan

Published 4 August 2020