News story

RWM yn croesawu lansiad ail ‘Weithgor’ Cyfleuster Gwaredu Daearegol

Bydd y Gweithgor yn Allerdale, Cumbria, nawr yn dechrau trafodaethau lleol ynghylch y posibilrwydd o gael Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF).

Mae Gweithgor wedi cael ei greu yn Allerdale, Cumbria, i ddechrau trafod y posibilrwydd o gynnal cyfleuster daearegol dwfn ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol mewn modd diogel.

Daw’r cyhoeddiad heddiw ddau fis ar ôl i’r gweithgor cyntaf gael ei sefydlu yn ardal gyfagos Copeland. Bydd Gweithgor Allerdale, dan gadeiryddiaeth annibynnol Jocelyn Manners-Armstrong, nawr yn dechrau trafod yn lleol a chasglu’r ffeithiau ynghylch y posibilrwydd o leoli Cyfleuster Gwaredu Daearegol (GDF) yn Allerdale yn y dyfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr Radioactive Waste Management (RWM), Karen Wheeler: “Rydw i wrth fy modd bod y Gweithgor GDF wedi cael ei greu yn Allerdale ac y bydd yn dechrau ymgysylltu â thrigolion lleol, busnesau a sefydliadau eraill ynghylch y posibilrwydd o gynnal GDF. Dyma’r ail Weithgor i gael ei greu, yn dilyn cyhoeddi gweithgor Copeland ym mis Tachwedd, ac mae rhagor ar y gweill ledled Lloegr dros y misoedd i ddod.

Mae creu Gweithgor yn gam cynnar iawn yn y broses, ond mae’n dangos bod cynnydd go iawn yn cael ei wneud tuag at ddod o hyd i safle addas a chymuned sy’n barod i gynnal un o’r prosiectau gwarchod yr amgylchedd mwyaf yn ein hanes – gan waredu gwastraff uwch ei actifedd yn ddiogel mewn GDF.

Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr mewn seilwaith ar gyfer economi leol, ac yn brosiect allweddol ar gyfer y DU. Bydd yn creu miloedd o swyddi yn ystod ei oes, gan gynnig cyfleoedd i ddatblygu gweithlu lleol sydd â’r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol. Bydd GDF hefyd yn denu mewnfuddsoddiad pellach ynghyd â chyfleoedd i’r gadwyn gyflenwi dros nifer o ddegawdau ac i mewn i’r ganrif nesaf.

Bydd y grŵp yn canolbwyntio i gychwyn ar gasglu gwybodaeth am yr ardal leol a sylwadau’r gymuned leol, ac ar ganfod Ardal Chwilio i’w hystyried yn fanylach. Yn debyg i’r sefyllfa yn Copeland, ni fydd Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd yn cael ei ystyried.

Nid oes gofyniad i ymrwymo i barodrwydd ardal i gynnal GDF yn y dyfodol. Bydd y Gweithgor hefyd yn nodi aelodau cychwynnol Partneriaeth Gymunedol a fydd yn parhau â’r trafodaethau cynnar hyn unwaith y bydd ardal chwilio wedi cael ei chanfod, gan rannu gwybodaeth a gweithio gyda RWM wrth i ymchwiliadau daearegol fynd rhagddynt.

Nid yw creu Gweithgor yn golygu y bydd GDF yn cael ei adeiladu mewn lleoliad penodol. Cyn gwneud unrhyw benderfyniad terfynol, mae’n rhaid i’r gymuned ddangos parodrwydd i gynnal GDF drwy brofi cefnogaeth y cyhoedd, ac mae’n rhaid dangos bod gan yr ardal leol y ddaeareg addas er mwyn gallu adeiladu GDF yn ddiogel.

Gwybodaeth am Gyfleusterau Gwaredu Daearegol:

  • Gwaredu Daearegol yw’r dull a gydnabyddir yn rhyngwladol o waredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd ac mae’n cynnwys cyfres o gladdgelloedd o’r radd flaenaf hyd at 1,000 metr yn ddwfn mewn craig addas. Ar y cyd â rhwystrau dynol, mae hyn yn gwarchod yr amgylchedd ac yn cadw’r gwastraff yn ddiogel tra bo’r ymbelydredd yn dadfeilio’n naturiol i lefelau diogel.

  • Mae llywodraethau olynol y DU wedi cefnogi gwaredu daearegol dwfn, ac mae rhaglenni tebyg eisoes yn mynd rhagddynt yn Canada, y Ffindir, Ffrainc, Sweden a’r Swistir.

  • Mae’r gwaith adeiladu cychwynnol yn debygol o bara tua 10 mlynedd a chyflogi hyd at 2,000 o bobl yn ystod y cyfnod prysuraf, gyda’r gwaith adeiladu tanddaearol yn parhau wrth i’r cyfleuster ehangu’n raddol dros ei oes weithredol sef dros 100 mlynedd.

  • Mae disgwyl i GDF gefnogi miloedd o swyddi, yn y cyfleuster ei hun ac yn y gadwyn gyflenwi ehangach, yn ogystal â chynnig cyfleoedd am gontractau amrywiol i fusnesau lleol.

  • Mae’r gwahoddiad i ddechrau trafod a chymryd rhan yn y rhaglen GDF yno o hyd i unrhyw sefydliad cymunedol, awdurdod lleol, busnes neu unigolyn yng Nghymru neu Loegr.

Published 14 January 2021