Stori newyddion

Cydnabyddiaeth frenhinol i ddau berson ifanc yn eu harddegau

Mae dau berson ifanc yn eu harddegau wedi cael eu penodi’n gadetiaid Arglwydd Raglaw De Morgannwg ar gyfer 2022.

Lady smiling and standing in front of a military backdrop.

Lord-Lieutenant of South Glamorgan Awards. RFCA for Wales Copyright.

Cafodd y Prif Gadét, Crystal Neil o Gorfflu Cadetiaid Môr Penarth, a’r Prif Gadét, Christopher Robinson o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Fitzalan, eu penodi gan Arglwydd Raglaw ei Mawrhydi ar gyfer De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith, mewn seremoni rithwir a gynhaliwyd ddydd Iau, 24 Chwefror.

Mae’r rôl sy’n para am flwyddyn yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda Mrs Meredith. Mae Mrs Meredith yn gweithredu fel cynrychiolydd y Frenhines mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Dywedodd Mrs Meredith,

Mae’r Lluoedd Cadetiaid yn sefydliadau arbennig. Maent yn cynnig cymysgedd o hyfforddiant milwrol, gwaith ieuenctid, cymwysterau sifil a gwaith cymunedol sy’n helpu i ddatblygu ein pobl ifanc i fod yn barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas.

Ychwanegodd na fyddai’r Lluoedd Cadetiaid yn bodoli oni bai am ymroddiad ac ymrwymiad gwych y swyddogion a’r oedolion sy’n wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser rhydd i’r gefnogi’r sefydliad.

Diolch i chi am yr anogaeth a’r gofal rydych chi’n eu rhoi i’n pobl ifanc, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn. Hoffwn dalu teyrnged i ddyfeisgarwch y gwirfoddolwyr hyn sydd wedi manteisio i’r eithaf ar dechnoleg i ddatblygu hyfforddiant mor llwyddiannus ar-lein,

meddai Mrs Meredith.

Mae gan Neil, Prif Gadét o Gaerdydd sy’n gobeithio ymuno â’r Llynges Frenhinol, ddawn o ran gweithgareddau teithio ar ddŵr ac mae wedi ennill y cymhwyster uchaf posib i gadetiaid mewn disgyblaethau cychod ac mae’n gobeithio bod yn hyfforddwr ym mhob proffesiwn sy’n ymwneud â’r maes.

Mae Prif Gadét Robinson, sydd hefyd yn dod o Gaerdydd, wedi bod yn aelod o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Fitzalan ers ei sefydlu yn 2017, ac wedi dangos dewrder yn gyson yn ei fywyd personol ac wrth hwylio.

Bydd y ddau yn dilyn ôl troed y Swyddog Cadét â Gwarant, Thomas John o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing, a Katrina Paterson o Gorfflu Cadetiaid Môr Caerdydd ̶ dyfarnwyd Tystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw iddyn nhw yn 2021.

Cafodd saith person eu cydnabod am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, a dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod Arglwydd Raglaw iddyn nhw.

Roedd y rhain yn cynnwys y Corporal wrth gefn, David Wheeler o Fand Catrodol y Cymry Brenhinol, a dau aelod o staff o Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, Mrs Lesley Williams a Mrs Nicola Talbot.

Mae Corporal David Wheeler o Gaerdydd, sy’n gweithio fel athro peripatetig pres, yn gerddor rhagorol ac yn berfformiwr medrus ar y Corn Ffrenig a’r Corn Tenor. Mae wedi cynrychioli’r Fyddin yn Mametz Wood, ar y Somme ac yn Passchendaele.

Ymunodd Rheolwr Cyfleusterau Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, Mrs Lesley Williams, â’r gymdeithas bron i 30 mlynedd yn ôl. Mae ei gwaith yn cwmpasu nifer fawr o gyfrifoldebau o gontractau rheoli a gwaredu gwastraff i gaffael a rheoli cerbydau’r Gymdeithas. Mae hi bob amser yn drefnus, yn gywir ac nid yw byth yn derbyn bod yn ail orau.

Disgrifir y Swyddog Gweinyddol, Mrs Nicola Talbot, a ymunodd â’r Gymdeithas yn syth o’r ysgol yn 1994, fel

cymeriad bywiog, sydd bob amser yn siriol, yn llawn chwerthin, yn gadarnhaol, yn dosturiol ac yn ofalgar. Mae’n mynd i’r afael â’i gwaith gyda brwdfrydedd ac yn rhoi sylw trylwyr i fanylion. Does dim byd byth yn ormod o drafferth, ac mae hi bob amser yn barod i helpu ac i gyflawni dyletswyddau nad ydynt o fewn ei chylch gwaith hyd yn oed y tu allan i oriau gwaith. Mae ei hymrwymiad a’i hymroddiad yn gaffaeliad mawr i’r sefydliad, sydd yn ei dro’n gymorth mawr i’r gwasanaeth a ddarparwn i’r Lluoedd wrth gefn a’r Cadetiaid.

Cyflwynwyd y Dystysgrif Teilyngdod hefyd i bedwar o oedolion sy’n gwirfoddoli mewn Llu Cadetiaid, sef: Capten Amanda Brookes o Lu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg; Arweinydd Sgwadron Jason Horton, Mr Jason Hooper a Chorporal Steven Dodd - pob un yn Gadetiaid Awyr RAF Rhif 1 y Welsh Wing.

Capten Amanda Brookes yw Cynghorydd Saethu’r Cadetiaid ym Mrigâd 160 (Cymru) ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o godi proffil Llu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg o fewn y maes.

Mae’r Corporal Steven Dodd wedi helpu i wrthdroi nifer y cadetiaid sy’n gadael a rhoi hwb i’r niferoedd yn Sgwadron Sain Tathan 2300 i dros 40 o gadetiaid, tra bod Arweinydd Sgwadron Jason Horton o Sgwadron 372 y Barri yn cael ei ddisgrifio fel swyddog rhagorol. Mae Mr Jason Hooper wedi trawsnewid y pwyllgor yn Sgwadron 1148 Penarth, ac mae bob amser yn barod i fynd yr ail filltir er budd y cadetiaid.

Mae bron i 5,000 o Gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo rhithiol ei drefnu a’i ddarlledu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2022