Stori newyddion

Cydnabyddiaeth Frenhinol i Gadetiaid Dyfed

Mae pedwar person ifanc yn eu harddegau o Ddyfed wedi cael eu penodi’n Gadetiaid Arglwydd Raglaw ar gyfer 2022 mewn seremoni wobrwyo rithwir.

Lady smiling and standing in front of a wood panelled backdrop.

Lord-Lieutenant of Dyfed Awards. Copyright: RFCA for Wales.

Penodwyd Abl Gadét Adam Hughes o Gorfflu Cadetiaid Môr Dinbych-y-pysgod; Abl Gadét Maisie Millichip o Gorfflu Cadetiaid Môr Abergwaun; Awyr-Ringyll Gadét Bethany Valentine o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr a Chorporal Gadét Martha Ashcroft o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr gan Arglwydd Raglaw Dyfed Ei Mawrhydi, Miss Sara Edwards mewn seremoni wobrwyo ddydd Iau, Mawrth 10.

Dewiswyd y pedwar ar gyfer rôl anrhydeddus cadét yr Arglwydd Raglaw, a fydd yn para am flwyddyn, ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a Chymdeithas Cadetiaid Cymru.

Mae’r rôl yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda Miss Edwards, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Frenhines mewn digwyddiadau swyddogol yn cynnwys digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Dywedodd Miss Edwards,

Mae’r Lluoedd Cadetiaid yn sefydliadau gwych, lle mae’r cymysgedd o hyfforddiant milwrol, gwaith ieuenctid a chymunedol yn ogystal â chymwysterau sifil i gyd yn helpu i baratoi ein pobl ifanc i ddod yn oedolion cyfrifol o gymdeithas ac i roi hyder a ffydd iddynt.

Bydd y pedwar cadét ar gyfer 2022 yn dilyn yn ôl troed Cadét Is-swyddog, Chris Harries o Gorfflu Cadetiaid Môr Abergwaun; Cadét Is-swyddog Alfie Anderson o Gorfflu Cadetiaid Môr Aberdaugleddau; Cadét Arweiniol Matthew Coburn o Gadetiaid Môr Dinbych-y-pysgod; Cadét Swyddog Gwarantedig Sarah Greenshields o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr a Chadét Swyddog Gwarantedig Josh Richards hefyd o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr.

Cafodd Chris, Alfie, Matthew, Sarah a Josh Dystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw am fod yn gynrychiolwyr 2021.

Canmolodd Miss Edwards hefyd waith Oedolion sy’n Gwirfoddoli gyda’r Llu Cadetiaid, a chafodd chwech ohonynt gydnabyddiaeth arbennig am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd a chawsant Dystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw yn ystod y seremoni.

Y chwe oedolyn oedd y Rhingyll Lliw Nigel Phillips o Gorfflu Hyfforddiant Swyddogion Prifysgol Cymru; Yr Hyfforddwr Uwch Ringyll Thomas Thomas o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Awyr-Lefftenant Kristian Butler o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr; y Rhingyll Owen Phillips o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr; Mrs Rosemary Fitzgerald o Gorfflu Cadetiaid Môr Abertawe a Mrs Tina Bushell-Friel o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr.

Mae bron i 5,000 o Gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo rhithiol ei drefnu a’i ddarlledu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 21 March 2022