Skip to main content
Stori newyddion

Yr RFCA dros Gymru yn croesawu 100 a mwy o westeion i'w Derbyniad i Gyflogwyr y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid

Croesawodd y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru (RFCA) dros 100 o westeion i'w Derbyniad i Gyflogwyr y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Reserve and Cadet Force Employers’ Reception. Copyright: RFCA for Wales

Croesawyd gwesteion i’r digwyddiad a gynhaliwyd ar drothwy Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn ddydd Mawrth 23 Mehefin, gan James Evans AS, cyn gyd-gadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid y Senedd.

Y prif siaradwr oedd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams AS. Nod y digwyddiad, a gynhaliwyd mewn partneriaeth â Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid, oedd cydnabod Milwyr wrth Gefn ac Oedolion sy’n Gwirfoddoli gyda Llu y Cadetiaid a diolch yn gyhoeddus i’w cyflogwyr am gefnogi Amddiffyn.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd yr Arweinydd Sgwadron Paul Thomas, Swyddog Gweithredol Sgwadron 614 (Sir Forgannwg), yr Awyrlu Ategol Brenhinol ynghyd â’r Milwr wrth Gefn gyda Sgwadron 614 a gweithiwr yn General Dynamics, Daniel Horwood. Rhoddodd John Smith, Rheolwr Gweithrediadau Treialon yn General Dynamics Land Systems UK, safbwynt y cyflogwr.

Yn ystod y noson, llofnododd Tŷ’r Cwmnïau Gyfamod y Lluoedd Arfog yn gyhoeddus ar ôl i’w Brif Weithredwr Dr Andy King roi eu safbwynt.

Daeth arddangosfa gyffrous gan 3ydd Bataliwn Corfflu Drymiau Brenhinol Cymru â’r dathliad i ben cyn i’r Brigadydd Russ Wardle OBE DL, cadeirydd yr RFCA dros Gymru, estyn gair o ddiolch.

Dywedodd Craig Middle, Rheolwr Cysylltiadau Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer De Cymru:

Daeth criw da ynghyd wrth i westeion ymgynnull ar gyfer ein Derbyniad i Gyflogwyr a Chadetiaid i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog. Diolch i’r cyfraniad y mae holl filwyr wrth gefn Cymru yn ei wneud i Amddiffyn, ac i’w cyflogwyr am eu cefnogaeth barhaus.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Gorffennaf 2026