Stori newyddion

Cam arall yn nes at y refferendwm ar bwerau pellach i’r cynulliad, medd Ysgrifennydd Cymru

Mae’r refferendwm ar bwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gam arall yn nes ar ol i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi gymeradwyo Gorchymyn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r refferendwm ar bwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gam arall yn nes ar ol i Dŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi gymeradwyo Gorchymyn y refferendwm a’r Gorchmynion cysylltiedig.

 A hwythau bellach wedi’u cymeradwyo gan y ddau Dŷ, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol nawr yn cyflwyno’r Gorchmynion i’w gwneud gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor ym mis Rhagfyr.

 Dywedodd Mrs Gillan:  “Mae’r refferendwm ar bwerau pellach i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gam yn nes. Mae’r Senedd wedi cymeradwyo Gorchymyn y refferendwm a’r Gorchmynion cysylltiedig, a bydd Ei Mawrhydi yn eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyfrin Gyngor ym mis Rhagfyr. 

 ”Rwy’n falch bod penllanw misoedd o waith caled rhwng Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn golygu, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, y caiff refferendwm ei chynnal ar bwerau’r Cynulliad ar 3 Mawrth y flwyddyn nesaf.   Bydd hefyd yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflawni ei hymrwymiad Cymru’n Un i gynnal y refferendwm cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Mrs Gillan: “O’r cychwyn, rydw i wedi ymrwymo i roi’r cyfle i bobl Cymru ddewis mewn refferendwm a oes arnynt eisiau i’r Cynulliad gael rhagor o bwerau. Rydym gam arall yn nes at gyflawni’r ymrwymiad hwnnw ac mae’n briodol iawn bod pobl Cymru yn cael cyfle i leisio barn ym mis Mawrth.”

 Cymeradwywyd Gorchymyn Refferendwm Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 9 Tachwedd. Yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor, bydd proses y refferendwm yn dechrau cyn y Nadolig.

 Nodyn i olygyddion:

Dyma’r Gorchmynion sy’n gysylltiedig a’r refferendwm sydd bellach wedi cael eu cymeradwyo gan ddau Dŷ’r Senedd: Y Gorchymyn Refferendwm drafft (Gorchymyn Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Darpariaethau Deddfau’r Cynulliad) (Cwestiwn y Refferendwm, Dyddiad y Refferendwm, ac ati) 2010 ); Y Gorchymyn Terfyn Treuliau drafft (Gorchymyn Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Darpariaethau Deddfau’r Cynulliad) (Terfyn ar Dreuliau’r Refferendwm ac ati) 2010); Y Gorchymyn Atodlen 7 drafft (Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Diwygio Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) 2010)

Mae’r ddau Orchymyn cyntaf yn darparu ar gyfer cwestiwn a dyddiad y refferendwm, trefniadau ar gyfer rhedeg y refferendwm, a’r terfynau ar wariant ymgyrchwyr.  Mae’r trydydd yn diweddaru Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 - sef yr Atodlen sy’n rhestru’r pynciau y gallai’r Cynulliad ddeddfu arnynt pe ceid pleidlais “Ie” yn y refferendwm. Mae’r newidiadau yn diweddaru’r Atodlen er mwyn ystyried y pwerau y mae’r Cynulliad wedi eu hennill ers i’r Atodlen gael ei diweddaru ddiwethaf yn 2007.

Cymeradwywyd y Gorchymyn refferendwm drafft a’r Gorchymyn Atodiad 7 drafft gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 9 Tachwedd. A hwythau bellach wedi’u cymeradwyo gan ddau Dŷ’r Senedd, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru nawr yn cyflwyno’r Gorchmynion i gyfarfod nesaf y Cyfrin Gyngor i’w cymeradwyo. Hi fydd yn gwneud y Gorchymyn Terfynau Treuliau ei hun.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor, disgwylir y bydd cyfnod y refferendwm yn dechrau ar 16 Rhagfyr. Cyn gynted ag y bydd cyfnod y refferendwm yn dechrau, bydd y rheini sy’n dymuno ymgyrchu a gwario swm sylweddol o arian (£10,000 neu ragor) yn gallu gwneud cais i’r Comisiwn Etholiadol i gael eu cofrestru fel cyfranogwyr a ganiateir, a bydd eu gwariant yna’n cael ei reoleiddio. Hefyd, bydd gan gyfranogwyr a ganiateir bum wythnos i wneud cais i arwain yr ymgyrch Ie neu’r ymgyrch Na. Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ddynodi sefydliad arweiniol ar gyfer y naill ymgyrch a’r llall, neu ddim o gwbl.  Os caiff sefydliadau eu dynodi, yna bydd yr ymgyrchoedd Ie a Na yn gymwys i gael rhywfaint o gymorth ariannol a chymorth arall. Penderfyniad y Comisiwn Etholiadol yw faint yn union o gymorth ariannol fydd ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am broses y refferendwm, ac am y rheolau sy’n berthnasol i’r rheini sy’n dymuno ymgyrchu yn y refferendwm, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Cyhoeddwyd ar 25 November 2010