Stori newyddion

Dyfodol disgleiriach Gymru y tu allan i’r UE

Araith y frenhines: Y Prif Weinidog yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i gryfhau’r Undeb

The Queen and Prince Charles

The Queen and Prince Charles

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi galw am ddyfodol disglair i Gymru heddiw [19 Rhagfyr] yn dilyn y ddeddfwriaeth yn Araith y Frenhines a fydd yn galluogi’r DU gyflawni Brexit a gadael yr UE ar 31 Ionawr.

Siaradodd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd yn dilyn araith Ei Mawrhydi’r Frenhines oedd yn amlinellu agenda deddfwriaethol ac uchelgeisiol Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn Seneddol nesaf.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Bydd y ddeddfwriaeth a amlinellir yn Araith y Frenhines yn golygu y gallwn gyflawni Brexit a gadael yr UE ar 31 Ionawr a meithrin dyfodol disglair i Gymru a gweddill y DU.

Mae mwyafrif helaeth o’r mesuriadau a amlinellwyd heddiw yn berthnasol i Gymru ac yn cynnwys cyflwyno system fewnfudo fodern yn seiliedig ar bwyntiau, mynd i’r afael â throseddau treisgar a gwneud gwelliannau i’r system cyfiawnder troseddol.

Rydym yn darparu hwb o £600 miliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i’r cylch gwariant diweddaraf a disgwylir i bobl ar draws y wlad weld yr arian yn cael ei wario ar y GIG yng Nghymru.

Unwaith eto, mae’r Prif Weinidog eto wedi egluro ei ymrwymiad diysgog i gryfhau’r Deyrnas Unedig drwy ein hymrwymiad i fuddsoddiadau mawr mewn bargeinion dinas a thwf dros Gymru gyfan, Gronfa Ffyniant Cyffredin newydd y DU i fynd i’r afael ar anghydraddoldeb ac amddifadedd, a’i gefnogaeth i’r diwydiant weithgynhyrchu sy’n parhau i ddarparu miloedd o swyddi. Mae hwn yn becyn uchelgeisiol o fesurau a fydd o fudd i gymunedau ledled Cymru.

Cyhoeddwyd ar 20 December 2019