Stori newyddion

Rhoi gwybodaeth rentu ar gyfer Ailbrisiad 2023

Mae Ailbrisiad 2023 ar y gweill. Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno’ch gwybodaeth rentu nawr er mwyn gwneud yn siŵr bod eich trethi busnes yn gywir.

Reval 2023

Wrth ailbrisio, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn addasu gwerth trethiannol eiddo busnes i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo.

Rydym yn cysylltu â busnesau ar hyn o bryd i ofyn am wybodaeth rentu. Mae’r data hyn yn ein helpu i gynnal a chadw cofnodion cyfredol sy’n adlewyrchu sut mae gwerth yr eiddo rydych yn byw ynddo wedi newid.

Anfon eich gwybodaeth rentu atom

Unwaith y cewch lythyr gennym, dylech fynd ar-lein a diweddaru’ch gwybodaeth.

Mae’r achosion o goronafeirws (COVID-19) wedi cael effaith sylweddol ar nifer o fusnesau. Os yw’ch gwybodaeth rentu, prydlesu neu unrhyw wybodaeth arall am eich busnes wedi newid, gallwch roi gwybod i ni drwy’r ffurflen manylion rhent a phrydles.

Ailbrisiadau a newidiadau i drethi busnes

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a roddir gan bob busnes yng Nghymru a Lloegr i osod gwerthoedd trethiannol. Defnyddir gwerthoedd trethiannol gan eich awdurdod lleol i gyfrifo’ch trethi busnes. Mae ailbrisiadau’n cael eu cynnal bob ychydig o flynyddoedd ac yn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad.

Ceisiadau am wybodaeth rentu

Rydym yn anfon ceisiadau am fanylion rhentu, prydlesu neu berchenogaeth, neu geisiadau am wybodaeth, i fusnesau yng Nghymru a Lloegr yn rheolaidd. Mae rhoi’r wybodaeth hon yn ein helpu i gael y gwerth trethiannol yn gywir ac yn sicrhau bod eich awdurdod lleol yn gallu cyfrifo trethi busnes cywir ar gyfer eich busnes.

Manylion anghywir ynghylch eiddo

Os nad oes gennych gysylltiad â’r eiddo mwyach (er enghraifft, am eich bod wedi gwerthu’r eiddo neu am fod eich prydles wedi dod i ben), dylech roi gwybod i ni ar y ffurflen.

Os ydych o’r farn bod yr wybodaeth sydd gennym am eich eiddo busnes yn anghywir, gallwch ddiweddaru’ch gwybodaeth gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwirio a herio. Gall trethdalwyr yng Nghymru ganfod sut i ddiweddaru eu gwybodaeth yma.

Landlordiaid y mae eu heiddo’n wag

Os ydych yn landlord a bod eich eiddo’n wag, mae angen i chi lenwi’r ffurflen ar gyfer eich eiddo.

Os oes angen help arnoch

Gallwch gysylltu ag un o’n timau i gael help wrth ddefnyddio’r gwasanaeth. Mae’r manylion cyswllt ar y llythyr a anfonwyd gennym i’ch eiddo.

Cyhoeddwyd ar 5 October 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 October 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.