Stori newyddion

Newid cyfreithiol arfaethedig i gefnogi ceisiadau trwyddedu meddygol

Cynigiwyd mesurau i newid y gyfraith i ganiatáu i ragor o weithwyr gofal iechyd proffesiynol megis nyrsiau arbenigol gwblhau holiaduron meddygol DVLA.

  • Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn datgelu cefnogaeth gref am fesurau sy’n caniatáu i wahanol fathau o weithwyr gofal iechyd proffesiynol gwblhau holiaduron meddygol fel rhan o’r broses trwyddedu meddygol
  • O ganlyniad y cam hwn bydd y broses o gwblhau holiaduron meddygol yn fwy cyflym
  • Mae’r oedi a achoswyd gan goronafeirws (COVID-19) a gweithredu diwydiannol yn parhau i ostwng am geisiadau trwyddedu meddygol, gyda’r disgwyl y bydd amserau prosesu arferol erbyn mis Medi 2022

Cynigiwyd mesurau i newid y gyfraith i ganiatáu i ragor o weithwyr gofal iechyd proffesiynol megis nyrsiau arbenigol gwblhau holiaduron meddygol DVLA. Bydd hyn yn helpu i gyflymu dychwelyd y wybodaeth feddygol sydd ei hangen i wneud penderfyniad trwyddedu yn dilyn y pandemig a gweithredu diwydiannol.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob gyrrwr fodloni’r safonau meddygol ar gyfer addasrwydd i yrru a phob blwyddyn mae DVLA yn gwneud dros 500,000 o benderfyniadau trwyddedu meddygol. Er mwyn helpu i wneud y penderfyniadau hyn, mae DVLA yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i holiaduron gael eu cwblhau gan feddyg neu ymgynghorydd gyrrwr.

Ar hyn o bryd, mae’r Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 dim ond yn galluogi i ymarferwyr meddygol cofrestredig (meddygon sydd wedi’u cofrestru â’r Cyngor Meddygol Cyffredinol) i gwblhau holiaduron meddygol DVLA.

Mae hyn wedi cyfrannu at oedi i geisiadau meddygol trwy gydol COVID-19, yn enwedig gan fod gwiriadau meddygol DVLA wrth reswm wedi cael eu trin â llai o flaenoriaeth ar adegau yn ystod y pandemig ac ym mis Rhagfyr 2021/mis Ionawr 2022 lle roedd angen adnoddau’r GIG i gefnogi’r rhaglen brechiadau atgyfnerthu.

Bydd y newid arfaethedig hwn yn y gyfraith yn galluogi rhagor o bobl - a fydd yn rhaid eu bod wedi’u cofrestru gyda chyrff proffesiynol penodol - i ymuno â’r rhestr o’r rheiny a all gwblhau holiaduron meddygol sy’n ofynnol fel rhan o’r broses trwyddedu meddygol. Ni fydd y newidiadau hyn yn gymwys i’r broses archwiliad meddygol D4 ar gyfer ymgeiswyr trwyddedau galwedigaethol.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA, Julie Lennard,

Roedd yn bleser gennym weld bod yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cefnogi’r syniad o gynyddu’r amrywiaeth o weithwyr proffesiynol meddygol a all gwblhau holiaduron meddygol DVLA. Mae hyn yn unol â sut mae practisau meddygon teulu yn gweithio’n fwyfwy a bydd yn gwella’r broses i’r rheiny sydd yn hysbysu DVLA am gyflwr meddygol. Bydd hyn hefyd yn lleddfu’r pwysau ar feddygon sy’n gweithio mor galed drwy ledu’r nifer o arbenigwyr meddygol a all ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd ar 8 Tachwedd 2021, a chyhoeddwyd yr ymateb iddo heddiw. Derbyniwyd dros 400 o ymatebion i’r ymgynghoriad, gan gynnwys y rheiny gan y cyhoedd a gweithwyr meddygol proffesiynol, gyda 82% o atebwyr yn cytuno’n gryf neu’n cytuno â’r cynigion.

Bydd y newid arfaethedig i’r gyfraith yn golygu y bydd unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi’i gofrestru â’r Cynghorau canlynol wedi’i awdurdodi’n gyfreithlon i gwblhau holiaduron meddygol DVLA:

  • Y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
  • Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • Y Cyngor Optegol Cyffredinol
  • Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol
  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
  • Y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal

Mae’r rhesymau a ddatganwyd dros gefnogi’r newid yn cynnwys darparu rhagor o hyblygrwydd ac y gallai arwain at benderfyniadau trwyddedu cyflymach gan DVLA.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, y Farwnes Vere:

Mae newid y gyfraith hon yn gwneud synnwyr. Bydd gwneud hyn yn gwella’r broses ymgeisio yn ddiogel i gannoedd o filoedd o fodurwyr ar hyd a lled y wlad, ac yn lleddfu’r pwysau ar ein meddygon ac ymgynghorwyr. Mae’n wych i weld y cynigion pwysig hyn yn symud ymlaen i ddod yn gyfraith.

Mae DVLA yn trafod miliynau o drafodion pob blwyddyn ac nid oes unrhyw oedi gyda gwasanaethau ar-lein, sydd wedi bod yn gweithio fel arfer trwy gydol y pandemig. Anogir cwsmeriaid i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn lle bo hynny’n bosibl. .

Mae’r mwyafrif helaeth o drafodion yn ôl i amserau prosesu arferol. Hefyd nid oes unrhyw oedi i geisiadau cerbydau nwyddau trwm (HGV), gyda cheisiadau syml yn cael eu prosesu o fewn tua pum diwrnod gwaith.

Cyhoeddwyd ar 12 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 May 2022 + show all updates
  1. Information added: "These changes will not apply to the D4 medical examination process for vocational licence applicants."

  2. First published.