Datganiad i'r wasg

Gwasanaeth ar-lein newydd sy’n gwneud cyflwyno cais am brofiant yn symlach ac yn haws

Gall unigolion sy’n gwneud cais am brofiant nawr wneud hynny o’u cartrefi eu hunain, diolch i’r ffaith bod gwasanaeth ar-lein wedi cael ei ehangu.

Person using a laptop
  • Gall unigolion mewn profedigaeth nawr wneud cais am brofiant ar-lein
  • Mae’r gwasanaeth newydd yn symlach ac yn fwy effeithlon
  • Mae’n rhan o raglen gwerth £1 biliwn i ddiwygio’r llysoedd

Mae’r gawsanaeth yn galluogi pobl i wneud cais, talu ffi a thyngu llw datganiad gwirionedd ar-lein – gan arbed amser a chynnig gwasanaeth cyfleus i’r rhai hynny sydd mewn profedigaeth.

Golygai hefyd, ar gyfer y mwyafrif o bobl, ni fydd angen ymweld â chofrestrfa brofiant neu swyddfa gyfreithiwr mwyach, gan gyflymu’r broses a’i gwneud yn symlach ac yn fwy effeithlon.

Dywedodd Prif Weithredwr GLlTEM, Susan Acland-Hood:

Mae gwneud profiant yn symlach ac yn fwy cyfleus a dileu’r angen i ymweld â chofrestrfa profiant a thyngu llw yn bersonol, yn helpu pobl sydd mewn profedigaeth yn ystod cyfnod heriol iawn - mae’r rhai hynny sydd wedi profi’r gwasanaeth newydd wedi dweud wrthym cymaint o wahaniaeth mae’n ei wneud. Rwy’n hapus iawn ein bod yn gallu cynnig y ffordd newydd, symlach hon o brosesu ceisiadau profiant i’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’n rhan o’r gwaith rydym yn ei gyflawni i’w wneud yn haws i bawb lywio’r system gyfiawnder.

Mae’r gwasanaeth eisoes wedi bod yn llwyddiannus mewn treial “trwy wahoddiad”, a gobeithir y bydd agor y gwasanaeth i’r cyhoedd yn golygu bydd rhagor o bobl yn elwa ohono. Roedd 93% o’r rhai hynny sydd wedi’i ddefnyddio hyd yn hyn yn fodlon neu’n fodlon iawn â’r gwasanaeth.

Un o’r unigolion hynny oedd Tony Donoghue o Ddwyrain Swydd Efrog. Mi wnaeth Mr Donoghue, sy’n rheolwr gyfarwyddwr, gais am brofiant ar-lein yng nghyswllt ystad ei dad. Dywedodd Mr Donoghue, sy’n 55 mlwydd oed:

Mae’n hawdd i’w ddefnyddio, yn gyflym ac yn gyfleus. Roedd yn effeithlon iawn. Mae’n union beth rydych ei eisiau gan system llywodraeth ar-lein – mae’n biti na all popeth fod mor syml â hyn.

Unwaith roeddwn i wedi anfon popeth i ffwrdd, anfonwyd y grant profiant ataf o fewn wythnos. Dyna wnaeth atgyfnerthu fy marn i ei fod yn wasanaeth mor dda ac mor effeithiol.

Bydd GLlTEM yn ychwanegu rhagor o nodweddion yn raddol - gan gynnwys y gallu i wneud cais os nad oedd yr ymadawedig wedi gadael ewyllys. Croesawir adborth a bydd newidiadau a gwelliannau yn cael eu gwneud lle bo’r angen.

Mae’r gwasanaeth yn rhan o raglen uchelgeisiol GLlTEM i ddiwygio’r llysoedd, rhaglen gwerth £1 biliwn, sy’n dod â thechnolegau newydd a ffyrdd modern o weithio i’r system gyfiawnder. Mae’n cynnwys gwasanaeth hawlio arian ar-lein sy’n hygyrch i bawb - mae 39,000 o hawliadau wedi’u cyflwyno ers iddo lansio ym mis Mawrth ac mae lefel bodlonrwydd defnyddwyr yn 90% - a system newydd ar gyfer gwneud cais am ysgariad ar-lein, sydd wedi lleihau’r gyfradd camgymeriadau mewn ffurflenni cais o 40% i 1%.

Nodiadau i Olygyddion

  • Gellir defnyddio’r gwasanaeth os oedd yr ymadawedig yn breswylydd parhaol yng Nghymru neu Loegr, os oes gan yr hawlydd gopi o’r ewyllys wreiddiol ac wedi’i enwi fel ysgutor, a gellir gwneud cais ar gyfer hyd at bedwar ceisydd ar y cyd.
  • Gall unrhyw un sy’n cael trafferth defnyddio’r gwasanaeth ar-lein gael fynediad at gymorth wyneb i wyneb gyda The Good Things Foundation, neu gael cymorth dros y ffôn trwy gofrestrfa brofiant Rhydychen.
  • Mae ffurflen bapur yn parhau i fod ar gael i unrhyw un sy’n dymuno ei defnyddio , ac mae hon wedi cael ei symleiddio hefyd.
  • I gael rhagor o wybodaeth neu gael gafael ar achosion achos, cysylltwch â Swyddfa Wasg MOJ.
Cyhoeddwyd ar 17 January 2019