Gall ceiswyr personol yn awr wneud cais am brofiant ar-lein
Mae GLlTEM yn manylu ar sut y gall ceiswyr personol yn awr wneud cais am brofiant gan ddefnyddio’r gwasanaeth newydd ar-lein.

Mae’r Gwasanaeth Profiant bellach yn derbyn ceisiadau ar-lein gan geiswyr personol a nifer fychan o gyfreithwyr detholedig ar sail y meini prawf isod:
- Ceisiadau lle mae hyd at 4 o ysgutorion yn gwneud cais.
- lle mae’r ewyllys wreiddiol ar gael hyd yn oed os bu i’r ymadawedig wneud hyd at 4 o newidiadau i’r ewyllys honno. (adnabyddir y newidiadau hyn fel codisiliau)
- Os oedd yr ymadawedig yn ystyried Cymru neu Loegr fel eu cartref parhaol neu’n bwriadu dychwelyd i Gymru neu Lloegr i fyw yn barhaol.
Bydd y ffurflen gais ar-lein yn parhau i gael ei datblygu i ymdrin ag ystod ehangach o geisiadau profiant yn y dyfodol.
Beth mae’r cais newydd ar-lein yn ei gynnig?
Mae’r ffurflen gais newydd ar-lein yn cynnwys:
- Datganiad newydd o wirionedd i chi ddatgan bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir, sy’n diddymu’r angen i dyngu llw
- y cyfleuster i dalu ffi ar-lein fel nad oes rhaid postio siec i’r Gwasanaeth Profiant.
- cyfleuster i ‘gadw a dychwelyd’ sy’n eich caniatáu i gadw ac ail edrych ar gais os oes arnoch angen dod o hyd i ragor o wybodaeth. Mae hyn yn caniatáu i gais sydd ar ei hanner gael ei gadw a’i gwblhau yn hwyrach ymlaen.
Beth sydd ei angen arnoch i gyflwyno cais ar-lein?
Mae’r ffurflen gais ar-lein yn haws i’w deall ond bydd dal gofyn i chi ddarparu dogfennau ategol fel y broses bresennol. Dyma fydd eu hangen:
- yr ewyllys wreiddiol gyda dau lungopi
- copi swyddogol o’r dystysgrif farwolaeth.
- y ffurflenni treth etifeddu a’r ffigyrau perthnasol
- unrhyw dystiolaeth ategol arall sy’n berthnasol i’r achos (e.e. ffurflen ymwrthod)
Rydym yn edrych at wella hyn yn y dyfodol, efallai trwy ddatblygu perthynas gydag adrannau eraill i gasglu’r wybodaeth yn awtomatig fel rhan o’r broses.
Os ydych chi’n cyrraedd gofynion y meini prawf ac eisiau gwneud cais ar-lein os gwelwch yn dda cysylltwch â llinell gymorth GLlTEM lle cewch y manylion priodol.
Updates to this page
-
Applications now open to a small number of solicitors.
-
Addition that a small number of solicitors can also use the service.
-
Up to 4 executors can now apply.
-
Up to 4 executors can now apply.
-
Criteria changes to include applications from up to 4 executors.
-
Online tool extended for professionals in Spring 2018.
-
Change to acceptance criteria
-
First published.