News story

Penodi Amy Holmes yn Warcheidwad Cyhoeddus

Mae Amy Holmes wedi cael ei phenodi yn Warcheidwad Cyhoeddus newydd Cymru a Lloegr a Phrif Weithredwr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Penodi Amy Holmes yn Warcheidwad Cyhoeddus

Penodi Amy Holmes yn Warcheidwad Cyhoeddus

Bydd Amy Holmes, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Materion Domestig yn yr Ysgrifenyddiaeth Economaidd a Domestig yn Swyddfa’r Cabinet, yn ymgymryd â rôl y Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Weithredwr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn yr hydref.

Bu’n llwyddiannus mewn cystadleuaeth deg ac agored am y rôl ac mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cymeradwyo ei phenodiad.

Dywedodd Jo Farrar, Ail Ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Phrif Swyddog Gweithredol y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM:

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu Amy i’w rôl hollbwysig fel Gwarcheidwad Cyhoeddus a Phrif Swyddog Gweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd Amy yn dod â chyfoeth o brofiad o yrfa llwyddiannus mewn llywodraeth i arwain cynlluniau uchelgeisiol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i wella a moderneiddio ei gwasanaethau. Edrychaf ymlaen at groesawu Amy pan fydd hi’n dechrau yn y swydd yn ddiweddarach eleni.”

Bydd Stuart Howard yn parhau yn ei rôl fel Gwarcheidwad Cyhoeddus Dros Dro Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus nes bydd Amy yn ymuno â’r asiantaeth yn yr hydref, ac ar ôl hynny bydd yn parhau yn ei rôl fel Pennaeth Sicrwydd Cyfreithiol a Gwybodaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Published 11 July 2022