PecynUK yn Cyhoeddi Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) 2027
Mae RAM 2027 yn diweddaru canllawiau i gefnogi cynhyrchwyr i asesu ailgylchadwyedd pecynwaith o dan gyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig dros becynwaith
A picture of recycled items
Mae PecynUK wedi cyhoeddi diweddariad i’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) heddiw (1 Gorffennaf 2026) ar ôl ymgynghori’n sylweddol â’r diwydiant. Y fersiwn nesaf, a elwir yn RAM 2027 yw’r fframwaith y mae’n rhaid i gynhyrchwyr ei ddefnyddio i asesu ailgylchadwyedd pecynwaith aelwydydd a roddir ar y farchnad yn 2027 o dan y cynllun Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig dros Becynwaith (pEPR).
Mae canlyniadau asesiadau RAM yn pennu a yw pecynwaith yn cael ei raddio’n goch, yn oren neu’n wyrdd, gan ddylanwadu ar fodiwleiddio ffioedd a chefnogi’r newid i system pecynwaith sy’n fwy cylchol.
Cefnogi asesiadau cliriach a mwy cyson
Mae RAM 2027 yn adeiladu ar fersiwn 1.1, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025, ac mae’n adlewyrchu ymgysylltiad helaeth â’r diwydiant, gan gynnwys cynhyrchwyr, cymdeithasau masnach ac arbenigwyr technegol. Mae’r fethodoleg wedi’i diweddaru yn ymateb yn uniongyrchol i adborth gan randdeiliaid, gan ganolbwyntio ar wella eglurder, cysondeb a hygyrchedd.
Mae’r newidiadau, sy’n cynnwys mireinio rheolau, diffiniadau, canllawiau asesu, strwythur a defnyddioldeb deunyddiau, wedi’u cynllunio i roi hyder i gynhyrchwyr yn eu hasesiadau drwy leihau amwysedd a’i gwneud yn haws defnyddio’r fethodoleg yn ymarferol. Mae RAM 2027 hefyd yn cryfhau’r cysylltiad rhwng sgoriau ailgylchadwyedd a chanlyniadau ailgylchu yn y byd go iawn, gan sicrhau bod asesiadau’n adlewyrchu’n well sut mae pecynwaith yn cael ei reoli ar draws y broses ailgylchu lawn.
Ysgogi canlyniadau a dyluniad pecynwaith gwell
Drwy gyd-fynd yn well â pherfformiad systemau yn y byd go iawn a gwreiddio adborth o bob rhan o’r sector, mae RAM 2027 yn galluogi ailgylchadwyedd gwell ac yn hybu dylunio pecynwaith sy’n fwy cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i sicrhau canlyniadau gwell i gynhyrchwyr, i’r diwydiant ehangach ac i awdurdodau lleol, gan gefnogi cynnydd at economi fwy cylchol.
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr a benodwyd yn ddiweddar, UK Packaging PRO, yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o siapio datblygiad parhaus y RAM a rhagor o ganllawiau i gynhyrchwyr.
Beth mae hyn yn ei olygu i gynhyrchwyr
Mae RAM 2027 yn berthnasol i becynwaith a gyflenwir yn 2027 ac nid yw’n effeithio ar adrodd ar gyfer 2025 na 2026. Felly, dylai cynhyrchwyr ymgyfarwyddo â RAM 2027 cyn y flwyddyn adrodd nesaf ond parhau i ddefnyddio RAM fersiwn 1.1 ar gyfer y cyfnodau adrodd presennol. Mae’n hanfodol bod cynhyrchwyr yn sicrhau eu bod yn cyfeirio at y fersiwn gywir ar gyfer pob asesiad.
- Mae RAM 1.1 yn berthnasol i’r cyfnod adrodd rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2026, a’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno yw 1 Hydref 2026 (H1) ac 1 Ebrill 2027 (H2).
- Mae RAM 2027 yn berthnasol i’r cyfnod adrodd rhwng 1 Ionawr 2027 a 31 Rhagfyr 2027, a’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno yw 1 Hydref 2026 (H1) ac 1 Ebrill 2028 (H2).
Rhagor o wybodaeth
Dyluniwyd RAM i’w ddiweddaru’n flynyddol er mwyn addasu i newidiadau a datblygiadau yn y diwydiant, RAM 2027 yw’r diweddariad cyntaf o dan y cylch diweddaru blynyddol newydd a nodir ym Map RAM. Mae’n dangos yn gynnar sut bydd y fethodoleg yn parhau i ddatblygu dros amser, gan gefnogi cydweithio parhaus a gwelliant parhaus ar draws y system pecynwaith.
I ddarllen methodoleg a chanllawiau llawn RAM 2027, ewch i: Asesu ailgylchadwyedd deunydd pecynnu: methodoleg asesu ailgylchadwyedd (RAM) 2027 - GOV.UK