Atafaelu dros 33 tunnell o fwyd dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon ac arestio unigolyn yn sgil ymgyrch rhwng yr NFCU a phartneriaid
Mae ymgyrch gan NFCU yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi arwain at arestio unigolyn ac atafaelu cynhyrchion bwyd dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban.
NFCU officer sorting through tonnes of suspected illegal food product for disposal
Cafodd yr unigolyn dan sylw ei ryddhau’n ddiweddarach yn destun ymchwiliadau pellach, ac mae ymholiadau’n parhau. Yn ystod mis Mehefin ac yn dilyn arestio’r unigolyn, roedd swyddogion yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU), ar y cyd â phartneriaid o awdurdodau lleol, wedi gwaredu 25 tunnell o gynhyrchion bwyd wedi’u rhewi dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon.
Mae ymchwiliadau i’r fasnach ehangach o gynhyrchion bwyd dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon yn parhau. Mae awdurdodau lleol wedi bod wrthi, gan atafaelu dros 8 tunnell mewn 111 o ymweliadau i fusnesau. Mae cyfanswm o 33 tunnell wedi’u hatafaelu ers i’r ymgyrch ddechrau.
Gwnaeth yr ymgyrch ddod â sawl partner ynghyd o adrannau gorfodi’r gyfraith ac awdurdodau lleol, gan gynnwys Heddlu Manceinion Fwyaf a Swydd Stafford, a Chyngor Dinas Stoke-on-Trent.
Nid oes arwydd o risg i iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, os oes gennych chi bryderon ynghylch cynnyrch rydych chi wedi’i brynu, cysylltwch â’ch tîm Iechyd yr Amgylchedd lleol.
Dywedodd Wayne Parker, Uwch-ymchwilydd yr NFCU yn yr ASB:
Drwy atafaelu dros 33 tunnell o gynhyrchion bwyd wedi’u rhewi dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon, yn ogystal ag arestio unigolyn, rydyn ni’n anfon neges gadarn i’r rheiny sy’n ceisio elwa o dwyllo defnyddwyr: fe fyddwn ni’n gweithredu.
Mae’r ymgyrch hwn yn enghraifft glir o beth gallwn ni ei gyflawni pan fydd asiantaethau’n cydweithio tuag at yr un nod. Hoffwn i ddiolch i bob partner am ei broffesiynoldeb a’i ymrwymiad drwy gydol yr ymgyrch hwn.
Dywedodd Andrew Quinn, Pennaeth yr NFCU yn yr ASB:
Mae rhywun wastad yn dioddef yn sgil trosedd fel twyll bwyd. Mae’n tanseilio busnesau gonest ac yn difetha ymddiriedaeth defnyddwyr. Yn yr achos hwn, olrheiniadwyedd a diogelwch bwyd sy’n peri gofid: gall camlabelu cynnyrch bwyd wedi’i rewi achosi risgiau i iechyd. Mae’r NFCU wedi ymrwymo o hyd i ddiogelu defnyddwyr a sicrhau nad oes lle yn system fwyd y DU i weithgareddau troseddol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Stoke-on-Trent:
Canlyniad gwych yw hwn – tynnu dros 33 tunnell o fwyd wedi’i rewi sydd dan amheuaeth o fod yn anghyfreithlon oddi ar y farchnad, a’i gwneud hi’n glir na fyddwn ni’n goddef busnesau sy’n ceisio camarwain cwsmeriaid. Gwnaethon ni dynnu sylw’r ASB at ymchwiliadau roedden ni wedi’u cynnal yn gynharach eleni, a wnaeth ganfod bod safle’n gwerthu cynhyrchion bwyd wedi’u rhewi â labeli twyllodrus arnynt a heb ffordd o’u holrhain.
Mae achosion fel y rhain yn peri risg diogelwch i’r cyhoedd, ac rydyn ni’n dal i gymryd camau cadarn er mwyn tynnu’r cynhyrchion hyn oddi ar y farchnad. Rydyn ni hefyd wedi bod mewn cyswllt â safleoedd a allai fod wedi derbyn y cynhyrchion dan sylw, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael eu tynnu a’u galw’n ôl.
Os ydych chi’n amau twyll bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol ar-lein neu drwy ffonio 0800 028 1180 (neu 020 7276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau o’r tu allan i’r DU).