Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Gwynedd yn cydnabod gwasanaeth rhagorol ac ymroddiad i ddyletswydd

Mae cynrychiolydd y Brenin dros Wynedd wedi cydnabod ymdrechion wyth o bobl o bob rhan o’r sir.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bedwar o bobl gan Arglwydd Raglaw Gwynedd, Edmund Bailey Ysw CStJ FRAgS yn y seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Bangor nos Iau 5 Mawrth, 2026.

Y rhain oedd yr Uwchgapten Tracey Cooper, yr Uwchgapten William LeCras, y Lefftenant Aled Hughes, a’r Swyddog Gwarant Ail Ddosbarth (Uwch Ringyll Cwmni) Carwyn Bee, i gyd o Lu Cadetiaid Byddin Clwyd a Gwynedd.

Cafodd llwyddiannau cadét yr Arglwydd Raglaw, y Corporal Gadét Elliw-Mai Jones o Lu Cadetiaid Byddin Clwyd a Gwynedd, eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad hefyd.

Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin, gan gynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Dewiswyd Elliw-Mai ar gyfer rôl anrhydeddus cadét yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael ei henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a’r Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru.

Dyfarnwyd dwy warant yn ystod y noson hefyd, Darn Arian Comander Cadlywydd 160fed Brigâd (Cymru), a Thystysgrif Teilyngdod ychwanegol ar ran Arglwydd Raglaw Dyfed.

Dyfarnwyd gwarantau i’r Swyddog Gwarant Ail Ddosbarth (Uwch Ringyll Cwmni) Carwyn Bee a’r Swyddog Gwarant Ail Ddosbarth (Uwch Ringyll Cwmni) Joseph Jones, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

Dyfarnwyd Darn Arian Comander Cadlywydd 160fed Brigâd (Cymru) i Uwch Ringyll Cwmni’r Cadetiaid, Tomos Jones, i gydnabod ei berfformiad rhagorol yn cario baner Llu Cadetiaid y Fyddin yn yr Ŵyl Goffa yn y Royal Albert Hall.

Hefyd, cyflwynodd yr Arglwydd Raglaw Dystysgrif Teilyngdod ar ran Arglwydd Raglaw Dyfed, Miss Sara Edwards, i’r Rhingyll Lliw Nigel Phillips o Gorfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru. Yn anffodus, yn sgil cyfyngiadau COVID 19 yn 2021, ni fu’n bosibl cyflwyno’r dyfarniad wyneb yn wyneb o’r blaen.

Mae bron i 4,500 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan y Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mawrth 2026