Stori newyddion

Gweithredu diwydiannol presennol yn DVLA

Sut y bydd gweithredu diwydiannol presennol yn DVLA yn effeithio ar brosesu ceisiadau papur a chysylltu â ni.

Bydd gweithredu diwydiannol presennol yn effeithio’n uniongyrchol ar wasanaethau DVLA. Bydd oedi wrth brosesu ceisiadau papur. Peidiwch â ffonio i holi am statws eich cais yn ystod y cyfnod hwn gan ein bod yn delio â phob cais papur cyn gynted â phosibl ac yn y drefn y cânt eu derbyn.

Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael a nhw yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i ymdrin â ni. Am wybodaeth ac i gael mynediad at ein gwasanaethau, ewch i www.gov.uk/browse/driving

Cyhoeddwyd ar 18 June 2021