Datganiad i'r wasg

Un mis i fynd nes bod y cyfraddau treth newydd ar gerbydau yn dod i rym

Mae’r DVLA yn atgoffa modurwyr mai ychydig dros un mis sydd i fynd nes bod y cyfraddau treth newydd ar gerbydau yn dod i rym ar bob car a rhai cerbydau gwersylla a gofrestrir am y tro cyntaf ar 1 Ebrill 2017.

One month to go until new vehicle tax rates come into force.

Meddai Rohan Gye, Rheolwr Gwasanaethau Cerbydau y DVLA:

Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar unrhyw gerbydau sydd wedi eu cofrestru cyn 1 Ebrill 2017. Felly, i unrhyw un sydd eisoes yn berchen ar gar neu yn ystyried prynu car ail law ni fydd cyfraddau treth y cerbyd yn newid. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sydd yn ystyried prynu car newydd fydd yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf ar 1 Ebrill edrych ar: tabl treth ar gerbyd ar GOV.UK i weld faint bydd yn rhaid iddynt ei dalu.

Dan y newidiadau, bydd y treth ar gerbyd am y flwyddyn gyntaf yn parhau i gael ei seilio ar allyriadau CO2. Ar ôl y flwyddyn gyntaf bydd swm y dreth i’w dalu yn dibynnu ar y math o gerbyd. Dyma’r cyfraddau newydd:

  • £140 y flwyddyn ar gyfer cerbydau petrol neu ddiesel
  • £130 y flwyddyn ar gyfer cerbydau tanwydd amgen (hybrid, bioethanol ac LPG)
  • £0 y flwyddyn ar gyfer cerbydau gydag allyriadau CO2 sero

Yn ogystal â hyn, mae cyfradd y dreth ar gerbydau gyda phris sylfaenol o fwy na £40,000, wedi ei seilio ar yr allyriadau CO2 am y flwyddyn gyntaf. Ar ôl y flwyddyn gyntaf bydd swm y dreth i’w dalu yn dibynnu ar y math o gerbyd (petrol, diesel, sero allyriadau ac ati) a threth ychwanegol o £310 y flwyddyn am y 5 mlynedd nesaf. Ar ôl y 5 mlynedd hynny, bydd y cerbyd yn cael ei drethu ar un o’r cyfraddau safonol (£140, £130 neu £0) yn dibynnu a y cerbyd.

Mae gwybodaeth bellach ar y newidiadau ar gael hefyd.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 27 February 2017