Skip to main content
Stori newyddion

Arestio unigolyn yn sgil ymgyrch gan yr NFCU a dargedodd ‘smokies’ anghyfreithlon ar-lein

Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cymryd rhan mewn diwrnod gweithredu aml-asiantaeth yng Nghaerlŷr (Leicester), gan dargedu ‘smokies’ a werthir yn anghyfreithlon drwy fusnes ar-lein.

Unidentified meat removed from the human food chain by NFCU and partners

Gwnaeth swyddogion o Heddlu Swydd Gaerlŷr a’r awdurdod lleol ymuno â’r NFCU fel rhan o ymgyrch orfodi ar y cyd. Yn ystod yr ymgyrch, cafodd dyn yng Nghaerlŷr ei arestio mewn perthynas â gwerthu smokies drwy lwyfannau ar-lein.

Mae ‘smokies’ yn cyfeirio at gig defaid neu gig gafr â’r croen ynghlwm, a gynhyrchir trwy losgi’r cnu oddi ar y carcas heb dynnu’r croen, gan roi lliw brown euraidd a blas unigryw iddo. Mae cynhyrchu smokies yn anghyfreithlon yn y DU, gan nad ydynt yn cydymffurfio â’r safonau hylendid llym a’r gofynion paratoi cig neu fwyd.

Mae’r dyn 38 oed wedi’i ryddhau dan ymchwiliad, a hynny wrth i ymholiadau fynd yn eu blaen mewn perthynas â’r troseddau a ddatgelwyd.

Dywedodd Neil Castle, Dirprwy Bennaeth NFCU yr ASB:

Mae’r NFCU, mewn partneriaeth â’r heddlu a swyddogion y cyngor, wedi bod yn ymchwilio i droseddau diogelwch bwyd a honiadau bod smokies yn cael eu gwerthu ar-lein. Drwy gydweithio’n agos â’n partneriaid, gwnaethon ni lwyddo i dynnu 158kg o gig anhysbys o’r gadwyn fwyd a goruchwylio’r gwaith o’i waredu’n ddiogel.

Mae risgiau diogelwch bwyd yn gallu codi wrth gynhyrchu smokies gan ddefnyddio’r dull traddodiadol, ac mae’n bosib y bydd yr anifeiliaid wedi’u lladd mewn ffordd nad yw’n bodloni deddfwriaeth lles anifeiliaid. Os ydych chi’n amau bod cig smokies yn cael ei werthu, cysylltwch â’ch tîm safonau masnach lleol.

Os ydych chi’n amau troseddau bwyd neu’n meddwl bod smokies yn cael eu gwerthu, gallwch chi roi gwybod i’r tîm Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol drwy fynd i gov.uk/troseddau-bwyd/rhoi-gwybod neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau o’r tu allan i’r DU).