Stori newyddion

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn penodi cyfarwyddwr anweithredol newydd

Greig Early wedi’i benodi’n gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Greig Early

Mae Greig Early wedi’i benodi’n gyfarwyddwr anweithredol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Yn ogystal â bod yn aelod o Fwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, bydd Greig hefyd yn aelod o’n Bwrdd Portffolio a Newid a’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd.

Unigolion uwch o’r tu allan i’r llywodraeth yw cyfarwyddwyr anweithredol, a benodir i herio adrannau ac asiantaethau gweithredol. Eu rôl yw:

  • rhoi cyngor i weinidogion a swyddogion ar oblygiadau gweithredu a chyflawni cynigion polisi
  • darparu cymorth, arweiniad a her annibynnol ar gynnydd a gweithrediad cyfeiriad strategol y sefydliad
  • cynghori ar berfformiad a monitro gweithrediad cynlluniau busnes

Ynghylch penodiad Greig, dywedodd y Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Prif Weithredwr, Amy Holmes:

Rydym yn falch iawn bod Greig wedi ymuno â Bwrdd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus. Bydd ei wybodaeth a’i brofiad, yn enwedig o ran trawsnewid digidol, yn cael eu croesawu wrth i ni anelu at ddatblygu ein proses o foderneiddio ein gwasanaethau atwrneiaeth arhosol.

Cyhoeddwyd ar 1 February 2024