Stori newyddion

Rhybudd i weithwyr proffesiynol cyfreithiol pan fyddant yn cyflwyno ceisiadau i’r Swyddfa Apeliadau Troseddol

Nodyn i atgoffa gweithwyr proffesiynol cyfreithiol i ddilyn y weithdrefn gywir ar gyfer cyflwyno apeliadau yn uniongyrchol

HMCTS Forms NG on table

Daeth newidiadau i ran 39 o’r Rheolau Trefniadaeth Droseddol i rym ar y 1af o Hydref 2018. O ganlyniad i’r newidiadau hyn, dylid cyflwyno apeliadau yn erbyn collfarn, dedfryd neu atafaeliad yn uniongyrchol i’r Swyddfa Apeliadau Troseddol ac nid Llys y Goron. At hynny, mae angen Ffurflen NG ar wahân ar gyfer pob math o gais.

Yn dilyn y newidiadau, mae llawer o weithwyr proffesiynol cyfreithiol wedi mabwysiadu’r weithdrefn newydd ond mae rhai ceisiadau yn dal i gael eu cyflwyno ar ffurflenni anghywir (yr hen rai). Ni all y Swyddfa Apeliadau Troseddol dderbyn y ceisiadau hyn a gall hynny arwain at oedi.

Er mwyn lleihau nifer y ffurflenni anghywir, rydym yn atgoffa pawb i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn Rhan 39 o’r Rheolau Trefniadaeth Droseddol fel y’i diweddarwyd.

Rydym wedi cyhoeddi Ffurflenni NG a chanllawiau, gan gynnwys manylion y gwasanaeth, yn ogystal â chyngor ar lenwi’r ffurflenni a’r seiliau dros apelio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Ionawr 2020 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.