Datganiad i'r wasg

Naw merch sy'n arloesi yn cael cyllid gan Lywodraeth y DU i ddatblygu dyfeisiadau â photensial byd-eang

Mae’r arloeswraig o Gymru, Dr Jessica Bruce, ymysg y merched sy’n arloesi a gafodd £50,000 o gyllid gan Lywodraeth y DU ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.

Dr. Jessica Bruce, recipient of Innovate UK funding.

Dr. Jessica Bruce, recipient of Innovate UK funding.

Mae Dr Jessica Bruce, sylfaenydd Run3D, yn cael £50,000 yn ogystal â phecyn blwyddyn o gymorth, hyfforddiant a marchnata pwrpasol fel rhan o gystadleuaeth Merched sy’n Arloesi Innovate UK. Mae Dr Bruce yn un o naw o ferched sy’n cael y cyllid a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu pob un o’u dyfeisiadau blaengar.

O dechnoleg dadansoddi symudiad 3D i seddau cadeiriau olwyn ymatebol, mae’r naw merch yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cymdeithas, fel sy’n cael ei nodi yn Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU. Gan ymateb i’n cymdeithas sy’n heneiddio, gall technoleg dadansoddi symudiad 3D Dr Bruce ohirio’r angen am driniaeth a lleihau anesmwythder mewn cymalau, gan helpu i wella bywyd pobl a chynhyrchiant y wlad.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Nid oes amser gwell i gydnabod llwyddiant Dr Jessica Bruce nag ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae ei harloesedd dyfeisgar ym maes dadansoddi symudiad 3D, sef y ffordd fwyaf cywir o ddiagnosio, trin ac atal anafiadau i redwyr/cerddwyr, yn sicrhau bod Cymru ar flaen y gad gyda thechnoleg flaengar ac mae’n amlygu sgiliau merched Cymru.

Bydd y £50,000 o gyllid gan Lywodraeth y DU yn caniatáu i Run3D ddatblygu ei gynlluniau arloesol, gan wneud yn siŵr ein bod ni’n fwy parod i gefnogi ein cymdeithas sy’n heneiddio a chyflawni nodau ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern. Byddwn ni’n parhau i gefnogi merched fel Dr Bruce sy’n arloesi ac sy’n gweithio i sicrhau safle’r DU fel un o arweinwyr y byd o ran diwydiannau’r dyfodol.

I ddathlu’r cyfraniadau eithriadol ym maes arloesi, mae Innovate UK wedi comisiynu placiau coffa i gydnabod pob un o lwyddiannau enillwyr y gwobrau. Mae’r plac piws, sydd wedi’i osod yn Ysgol Gyfun Aberaeron yng ngorllewin Cymru, yn anrhydeddu dechrau taith arloesi Dr Bruce, gan ysbrydoli arloeswyr ifanc a chymunedau fel ei gilydd.

Dywedodd Ian Campbell, Cadeirydd Gweithredol Innovate UK:

Mae Gwobrau Merched sy’n Arloesi Innovate UK yn mynd i’r afael â rhwystr allweddol i amrywiaeth ym maes arloesi, sef diffyg modelau rôl sy’n ferched. Drwy gydnabod eu llwyddiant â phlaciau piws, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod ein naw enillydd newydd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched sy’n arloesi.

Boed hynny drwy ysbrydoli disgyblion ifanc sy’n dangos brwdfrydedd tuag at bynciau STEM, rhywun sydd wedi tanio syniad, neu fusnes arloesol sy’n barod i gamu i’r lefel nesaf, mae ymgyrch Merched sy’n Arloesi 2019 yn ceisio hybu newid cadarnhaol a phellgyrhaeddol yn y tymor hir.

Dywedodd Dr Jessica Bruce, Rheolwr Gyfarwyddwr Run3D:

Mae’r cyfle i fod yn esiampl yn un cyffrous iawn. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r llwyfannau y mae’r wobr hon yn eu darparu er mwyn rhannu fy stori ac ysbrydoli merched eraill i arloesi ym myd busnes a STEM.

Mae cefnogi merched sy’n arloesi yn un o brif ymrwymiadau Innovate UK ac mae nifer y cofrestriadau ymysg merched sy’n arloesi ar gystadlaethau sy’n bodoli eisoes wedi cynyddu 70% ers 2016.

Mae enillwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i fod yn llysgenhadon i Ymddiriedolaeth y Tywysog ac i ddatblygu arloesedd blaengar. Ymysg yr enghreifftiau, mae Carmen Hijosa, sydd wedi creu dewis arall cynaliadwy yn lle lledr gan ddefnyddio ffeibr dail pîn-afal; Elena Dieckmann, y mae ei chwmni yn creu cynnyrch gwreiddiol gan ddefnyddio plu dros ben o’r diwydiant ieir a Fanzi Down, sydd wedi datblygu techneg mowldio siocled chwyldroadol drwy ddiwydianeiddio’r broses ddadleoli.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 11 March 2019