Datganiad i'r wasg

Amlinellu’r Camau Nesaf ar gyfer y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru

Heddiw [19 Gorffennaf], cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, bod Comisiwn annibynnol yn mynd i gael ei sefydlu yn yr hydref…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [19 Gorffennaf], cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, bod Comisiwn annibynnol yn mynd i gael ei sefydlu yn yr hydref i edrych ar atebolrwydd ariannol Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd y Comisiwn yn edrych ar y materion cysylltiedig a datganoli ac atebolrwydd ariannol yng Nghymru a bydd yn ystyried gwaith Comisiwn Holtham.  Bydd yn anelu at adrodd yn ol ar ei argymhellion yn hydref 2012.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Roedd cytundeb y Glymblaid yn mynegi’n glir ein hymrwymiad i sefydlu proses debyg i Gomisiwn Calman ar gyfer Cynulliad Cymru ac mae ein cynigion yn datblygu o ddifrif yn awr. Un o gryfderau allweddol Comisiwn Calman oedd ei ddull cydsyniol o weithredu ac rydym wedi gweithio’n agos a Llywodraeth Cymru a phob plaid yn y Cynulliad er mwyn sicrhau consensws eang ynghylch sut rydym yn symud ymlaen.

“Mae’n gwbl briodol bod Llywodraeth Cymru’n atebol am yr arian mae’n ei wario. Dim ond dechrau ar y broses ydym ni ond, drwy gydweithrediad rhwng y pleidiau, llywodraethau a sefydliadau, rwyf yn credu bod modd i ni ddod i gytundeb a fydd yn esgor ar atebolrwydd ariannol i’r Cynulliad. 

“Bydd Comisiwn annibynnol yn cael ei sefydlu yn yr hydref a bydd yn gobeithio adrodd yn ol ar ei argymhellion yn hydref 2012. Bydd y gwaith yn parhau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru dros yr haf a byddwn yn edrych ar wneud rhagor o gyhoeddiadau ynghylch y broses ar ol y gwyliau.

“Mae’r Llywodraeth yn ymroddedig i ystyried pob agwedd ar adroddiadau Comisiwn Holtham. Bydd trafodaethau ar wahan yn parhau ynghylch cynigion Holtham ar gyfer diwygiad cyllido ar gyfer Cymru.”

Wedi i’r Comisiwn adrodd yn ol ac wedi i’r Llywodraeth ystyried ei gynigion, bydd y Comisiwn yn edrych ar y setliad cyfansoddiadol yng Nghymru yng ngoleuni profiad.  Bydd y Comisiwn yn anelu at adrodd yn ol ar ei ddarganfyddiadau yn 2013.

Cyhoeddwyd ar 19 July 2011