Stori newyddion

Neges Blwyddyn Newydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

OS 2011 oedd y flwyddyn y gwelwyd newid gwleidyddol yng Nghymru, yna mae’n rhaid mai 2012 fydd y flwyddyn lle gwelir newidiadau er gwell yn …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

OS 2011 oedd y flwyddyn y gwelwyd newid gwleidyddol yng Nghymru, yna mae’n rhaid mai 2012 fydd y flwyddyn lle gwelir newidiadau er gwell yn economi Cymru.

Roedd y 12 mis diwethaf yng ngwleidyddiaeth Cymru yn rhyfeddol. Refferenda, etholiadau’r Cynulliad, dyrchafiad a chwymp gyrfaoedd gwleidyddol, datblygiad y broses ddatganoli gyda phwerau newydd i Lywodraeth Cymru, a lansio comisiwn i edrych ar ddatganoli ac atebolrwydd ariannol.

Os ydym am i’r digwyddiadau hyn fod yn wirioneddol arwyddocaol y tu allan i swigod gwleidyddol San Steffan a Chaerdydd, yna mae’n rhaid gosod gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu a bachu ar y cyfleoedd yn y flwyddyn a ddaw. Mae gan Lywodraeth Cymru’r pwerau a’r arian yn 2012 a thrwy weithio gyda San Steffan gallwn wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae gan Gymru ddwy lywodraeth yn gweithio er budd y wlad, nid un. Ac nid wyf yn credu bod y bwlch gwleidyddol mor fawr fel na allwn rannu nodau cyffredin - i helpu pobl sydd am lwyddo ac sydd am i’w plant lwyddo, i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen, ac i ddatblygu’r economi fel bod creu cyfoeth a sicrhau ffyniant yn digwydd ledled Cymru. Nid wyf yn credu ychwaith y bydd buddiannau Cymru yn cael eu sicrhau yn 2012 os bydd llywodraeth Cymru a llywodraeth y DU yn caniatau i feio ac ymosod cyson ddylanwadu ar farn neu danseilio’r uchelgeisiau cyffredin hyn.

Ein her ni gyda’n gilydd ac yn ddi-oed yn 2012 fydd mynd i’r afael a’r diweithdra dychrynllyd. Mae arwyddion bod y farchnad waith yn sefydlogi ond mae diweithdra yn dal i godi. Mae ansicrwydd yn yr economi fyd-eang yn atgyfnerthu’r hyn a gredaf mai’r ffordd orau o sicrhau buddiannau ein gwlad yw pan fydd y ddwy lywodraeth sy’n cynrychioli Cymru yn cydweithio ac yn sicrhau nad yw digwyddiadau dramor yn atal y broses adfer gartref rhag digwydd.

Wrth wella hyfforddiant ac addysg - cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, er enghraifft - bydd hyn yn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc a cheiswyr swyddi gael gwaith - a bydd Rhaglen Waith Llywodraeth y DU yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer y rheini sy’n chwilio am waith.

Yn 2011 dangosodd Llywodraeth y DU ei huchelgais i greu cydbwysedd eto yn economi Cymru, datblygu’r sector preifat a symud i ffwrdd oddi wrth orddibyniaeth ar y sector cyhoeddus, gyda buddsoddiad pwysig mewn seilwaith.

Bydd trydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Gaerdydd a’r miliynau ar gyfer band eang cyflym iawn yn gwella cysylltedd a hygyrchedd o Gymru i farchnadoedd pwysig gartref a thramor, ac yn denu buddsoddiad newydd yr un pryd sy’n cynnig y potensial i ddatblygu swyddi. Yn 2012 yr wyf wedi ymroi i fynd a hyn ymhellach drwy ddadlau dros drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd.  Bydd buddsoddiad o’r fath yn moderneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd a bydd hefyd yn rhoi’r potensial i gynnig cyfleoedd i rai o’n cymunedau tlotaf a denu buddsoddiad i ddatblygu’r sector preifat.

Mae digwyddiadau megis Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain, a Jiwbili Diemwnt y Frenhines, yn cynnig cyfleoedd go iawn i Gymru ddangos ein gwlad i’r byd.  Ar adeg pan welwn dueddiadau at ymynysu ac ymwahanu, bydd y rhain yn ein hatgoffa’n glir o’r lle pwysig sydd gan Gymru yn yr Undeb, a rhyngddibyniaeth pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Ar adeg o ansicrwydd economaidd byd-eang mae troedio’r llwybr ar eich pen eich hun yn beryglus.

Wrth i Lywodraeth y DU fynd i’r afael a’r heriau economaidd yn uniongyrchol yn 2012, yr her i Lywodraeth Cymru fydd cyflawni. Mae Gweinidogion yng Nghaerdydd wedi cael saith mis bellach i fynd i’r afael a phwerau deddfwriaethol newydd i gefnogi eu cyllideb o £15bn. Hyd yma nid yw eu rhaglen ddeddfwriaethol wedi creu llawer o argraff. Ar ddiwedd 2012 bydd Comisiwn Silk yn llunio ei adroddiad ar ddatganoli ariannol. Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, bydd gennym syniad cliriach o sut y bydd oes newydd o atebolrwydd i Lywodraeth Cymru yn datblygu. Mae hyn yn beth da i Gymru gan fod yn rhaid bwrw ati a gwneud rhywbeth yn 2012 er gwaethaf gwahaniaethau gwleidyddol.

Dymunaf Flwyddyn Newydd hapus, iach a ffyniannus i bawb yng Nghymru gan obeithio y gallwn, drwy gydweithio, wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol yn 2012.

Cyhoeddwyd ar 30 December 2011