Datganiad i'r wasg

Cyfraddau treth cerbyd newydd yn dod i rym heddiw

Mae cyfraddau treth cerbyd newydd yn dod i rym ar gyfer holl geir a rhai cartrefi modur sydd wedi'u cofrestru o heddiw (1 Ebrill, 2017).

New vehicle tax rates

O dan y cyfraddau newydd, bydd pob cerbyd yn parhau i gael eu trethu am y tro cyntaf yn seiliedig ar eu hallyriadau CO2.

Ar ôl hyn, bydd y swm o dreth i’w thalu yn dibynnu ar y math o gerbyd. Y cyfraddau safonol newydd yw:

  • £140 y flwyddyn ar gyfer cerbydau petrol neu ddisel
  • £130 y flwyddyn ar gyfer cerbydau tanwydd amgen (hybrid, bioethanol a LPG)
  • £0 y flwyddyn ar gyfer cerbydau ag allyriadau CO2 sero

Mae taliad ychwanegol o £310 y flwyddyn am 5 mlynedd (o’r ail waith y mae’r cerbyd wedi’i drethu), os yw’r cerbyd a phris rhestr o fwy na £40,000 yn y cofrestriad cyntaf.

Mae mwy o wybodaeth ynghylch y newidadau ar gael hefyd.

Nid yw’r newidiadau hyn yn effeithio ar geir a gofrestrwyd cyn 1 Ebrill 2017 - ond mae eu cyfradd dreth wedi cynyddu heddiw yn unol â’r Mynegrif Prisiau Manwerth.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 1 April 2017