Stori newyddion

Math newydd o bartneriaeth cyfyngedig

Daeth Gorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Partneriaethau Cyfyngedig Cronfa Breifat) 2017 i rym ar 6 Ebrill 2017.

Private fund limited partnerships

Daeth deddfwriaeth newydd i rym ar 6 Ebrill 2017 sy’n cyflwyno math newydd o bartneriaeth cyfyngedig. Mae’r Gorchymyn yn cyflwyno partneriaethau cyfyngedig cronfa breifat (PCCB) ac yn diwygio Deddf 1907, sy’n berthnasol i PCCB a phartneriaid mewn PCCB.

Gellir strwythuro cynlluniau buddsoddi preifat sy’n newydd ac sy’n bodoli eisoes fel partneriaethau cyfyngedig.

I gofrestru fel PCCB newydd, defnyddiwch Ffurflen LP7. Dylai partneriaeth cyfyngedig sy’n bodoli eisoes ac sy’n gwneud cais am gael ei dynodi’n PCCB ddefnyddio Ffurflen LP8. Mae rhai newidiadau wedi cael eu gwneud hefyd i ffurflenni presennol LP5 ac LP6.

Mae’r holl ffurflenni LP newydd a diwygiedig ar gael i’w lawrlwytho.

Gallwch weld y ddeddfwriaeth newydd yng Ngorchymyn Diwygio Deddfwriaethol (Partneriaethau Cyfyngedig Cronfa Breifat) 2017.

Llun: Shutterstock/Mind and I

Cyhoeddwyd ar 6 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 April 2017 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. First published.