Datganiad i'r wasg

Gwell cefnogaeth i ddefnyddwyr y llys o ganlyniad i'r canolfannau gwasanaeth newydd

Cafodd galwadau tua 30,000 o ddefnyddwyr llys a oedd eisiau cymorth eu hateb mewn 30 eiliad yn unig o ddiolch i’r canolfannau gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd cyntaf a agorodd eu drysau am y tro cyntaf yn gynharach eleni.

People sitting in new office space talking on phones
  • Amseroedd aros ar y ffôn wedi lleihau 90% ar gyfer ymholiadau Gweithdrefn Un Ynad
  • Mwy na 30,000 o alwadau wedi’u hateb ers mis Ionawr 2019
  • Staff y Llys yn rhydd i helpu’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol

Cyn hynny, roedd yn rhaid i bobl ag achosion a reolir dan y Weithdrefn Un Ynad aros hyd at bum munud cyn i rywun ateb y ffôn, ond maent bellach yn cael y cymorth iawn yn gynt, gan sicrhau mynediad cyflymach a mwy effeithlon at gyfiawnder.

Cyflwynwyd y Weithdrefn Un Ynad yn 2015 ac mae’n caniatáu i ddiffynyddion a gyhuddwyd o droseddau diannod angharcharadwy gael eu rhoi ar dreial a’u dedfrydu ar sail y papurau gan un ynad heb wrandawiad.

Mae’r gostyngiad hwn o 90% mewn amseroedd aros ar y ffôn yn ganlyniad i gyflwyno canolfannau gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd, sy’n dod â phobl arbenigol hyfforddedig at ei gilydd o dan un to ac yn defnyddio technoleg i ddatrys ymholiadau’n gyflymach. Mae gan staff y llys, a oedd yn arfer ateb galwadau yn flaenorol, bellach fwy o amser i gefnogi’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol cyfreithiol yn well yn ystod gwrandawiadau.

Meddai Jonathan Wood, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cenedlaethol GLlTEM:

Mae’n galonogol gweld bod y newidiadau a wnaethom i’r ffordd yr ydym yn gweithio eisoes yn gwella profiad y bobl sy’n defnyddio ein llysoedd.

Rydym yn ateb galwadau’n gyflymach gan ddarparu cymorth o ansawdd gwell sy’n benodol i’r rhai sy’n galw a’u hachosion.

Mae’r canolfannau gwasanaeth yn rhan o raglen ddiwygio £1 biliwn GLlTEM. Yn ogystal â moderneiddio llysoedd a thribiwnlysoedd, bydd y rhaglen yn darparu nifer o ganolfannau gwasanaeth ledled y wlad er mwyn canoli gwasanaethau a chroesawu technoleg newydd i ddatrys ymholiadau’n fwy effeithlon.

Ers agor y canolfannau cyntaf ym Mirmingham a Stoke ym mis Ionawr 2019, mae’r canolfannau gwasanaeth wedi derbyn mwy na 30,000 o alwadau yn ymwneud â Transport for London, trwyddedu teledu, a throseddau treth ac yswiriant car y DVLA.

Mae’r rhai sy’n galw wedi gweld gostyngiad mewn amseroedd aros o fwy na phum munud i 30 eiliad yn unig, a dim ond 2% ohonynt sy’n rhoi’r ffôn i lawr erbyn hyn cyn i swyddog ateb eu galwad o gymharu â 38% yn flaenorol. Mae llinell uniongyrchol wedi’i chyflwyno hefyd ar gyfer siaradwyr Cymraeg, sy’n golygu y bydd eu hymholiad yn cael ei drafod yn Gymraeg o’r cychwyn cyntaf.

Mae’r canolfannau gwasanaeth bellach yn ymdrin â phob ymholiad ynghylch erlyniadau SJP nas erlynir gan yr heddlu, gan gynnwys y rhai a ddygir gan gynghorau, cwmnïau trenau a thramiau, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, Asiantaeth yr Amgylchedd, a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Cyhoeddwyd ar 15 August 2019