Datganiad i'r wasg

Cynlluniau newydd ar gyfer y system brawf yng Nghymru wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU

Bydd yr oruchwyliaeth yn dod at ei gilydd o dan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPC)

  • Bydd yr oruchwyliaeth ar yr holl droseddwyr yng Nghymru’n dod at ei gilydd o dan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPC) er mwyn adlewyrchu anghenion cymunedau yng Nghymru yn well.
  • Bydd y newidiadau’n cryfhau’r oruchwyliaeth ar droseddwyr ac yn gwella hyder y cyhoedd mewn dedfrydau cymunedol.
  • Bydd contractau’r Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol (CACau) yn gorffen ddwy flynedd yn gynnar yn 2020, gyda chynlluniau i weithio gyda’r farchnad i gynllunio contractau newydd a gwell ar gyfer gwasanaethau adsefydlu.

Mae newidiadau eang i’r ffordd mae’r system brawf yn cael ei gweithredu yng Nghymru wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth y DU, er mwyn cryfhau’r oruchwyliaeth ar droseddwyr a gwella’r hyder mewn dedfrydau cymunedol.

Mae dogfen ymgynghori a gyhoeddwyd heddiw’n amlinellu bwriad y Weinyddiaeth Cyfiawnder i ddefnyddio hyblygrwydd yn y setliad datganoli presennol i ddod â’r oruchwyliaeth ar yr holl droseddwyr yng Nghymru’n rhan o GPC Cymru - fel bod un sefydliad yn gyfrifol am reoli’r holl droseddwyr gan weithredu mewn ffordd unedig a chyfannol gyda systemau prawf.

Yn y dyfodol, bydd meysydd y CACau a’r GPC yn cyd-fynd, gyda deg rhanbarth prawf newydd yn Lloegr, gan symleiddio a chryfhau’r cyswllt â phartneriaid lleol allweddol a chreu cyfleoedd i gomisiynu gwasanaethau adsefydlu ar y cyd gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd.

Roedd y newidiadau i’r system brawf yn 2015, a oedd yn cael eu hadnabod fel ‘Trawsnewid Adsefydlu’, yn heriol ac yn uchelgeisiol ac maent wedi arwain at 40,000 yn rhagor o droseddwyr y flwyddyn yn cael cefnogaeth a goruchwyliaeth ar ôl cael eu rhyddhau - newid cadarnhaol i ddiogelwch y cyhoedd.

Mae’r gwaith monitro ychwanegol hwn wedi cael ei wneud gan ‘Gwmnïau Adsefydlu Cymunedol’ a gafodd eu ffurfio o’r newydd ac sy’n rheoli troseddwyr risg isel a risg ganolig, a’r GPC a gyllidir gan y cyhoedd ac sy’n rheoli troseddwyr risg uwch.

Mae’r trefniadau presennol yn golygu bod cynllun a darpariaeth y gwasanaethau prawf yng Nghymru’n wahanol eisoes i Loegr, gyda gwasanaethau carchar a phrawf yn cael eu goruchwylio’n llwyr gan HMPPS Cymru - gan baratoi’r ffordd ar gyfer newidiadau i’r system bresennol.

Mae cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n fater a gedwir yn ôl ac yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae asiantaethau eraill fel gofal iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u datganoli, a byddwn yn parhau i weithio’n agos â’r sefydliadau allweddol hyn.

I adlewyrchu hyn, mae’r ymgynghoriad heddiw’n datgan cynigion i ddod â’r oruchwyliaeth ar yr holl droseddwyr yng Nghymru o dan y GPC ac edrych ar sut gall partneriaid ehangach helpu i wella’r gefnogaeth adsefydlu i droseddwyr, drwy weithio’n fwy unedig gydag iechyd, tai a’r trydydd sector.

Bydd y model newydd yn cefnogi mwy o integreiddio â’r gwasanaethau allweddol hyn - gan adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sydd eisoes yn digwydd drwy gyfrwng Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan.

Mae’r partneriaid prawf yng Nghymru wedi dod at ei gilydd eisoes yn gydweithredol i ddarparu gwasanaethau adsefydlu ac ailsefydlu, sy’n gyfle unigryw i adeiladu ar y partneriaethau positif hyn a gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau ledled y wlad.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Gauke:

Rydw i eisiau gwasanaeth prawf yng Nghymru sydd nid yn unig yn cadw’r cyhoedd yn ddiogel ond hefyd yn mynd ati i leihau aildroseddu’n sylfaenol, drwy roi i droseddwyr y gefnogaeth y mae arnyn nhw ei hangen i gyfrannu’n bositif at y gymuned a newid eu bywydau.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i greu gwasanaeth prawf yng Nghymru sy’n dod â gwasanaethau hanfodol at ei gilydd ac yn cryfhau’r partneriaethau presennol.

Rydyn ni eisiau gweld mwy o bwyslais ar ddedfrydau cymunedol a llai o ddibyniaeth ar ddedfrydau byr o garchar, fel eu bod yn cael eu defnyddio fel y dewis olaf yn unig - ond i wneud hyn rhaid i ni gael gwasanaeth prawf sy’n hawlio hyder y llysoedd.

Rydw i’n hyderus y bydd y camau rydyn ni’n eu hamlinellu heddiw yn adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol yng Nghymru ac yn gwella adsefydlu - fel ein bod ni’n gallu torri cost aildroseddu yn y pen draw.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cynlluniau sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n pwysleisio ymrwymiad cadarn Llywodraeth y DU i leihau aildroseddu gyda chefnogaeth gwasanaeth prawf effeithiol a sefydlog.

Rydyn ni eisiau gweld troseddwyr yng Nghymru’n cael eu hadsefydlu’n llwyddiannus fel eu bod yn troi eu cefn ar droseddu ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas.

Rydyn ni eisiau gweithio yn awr gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid ledled Cymru er mwyn cael sylwadau ar y cynigion yma, gwrando ar brofiadau ac awgrymiadau pobl eraill, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fireinio ein cynlluniau ar gyfer gwella gwasanaethau prawf ledled y wlad.

Er bod y CACau wedi lleihau nifer cyffredinol y bobl sy’n aildroseddu, mae’n glir bod darparwyr prawf preifat wedi wynebu heriau sylweddol. Mae newidiadau heb eu rhagweld o ran y math o droseddwyr sy’n dod i’r llysoedd a’r dedfrydau maent yn eu cael wedi lleihau incwm y CAC yn sylweddol ac effeithio ar ansawdd gwasanaethau rheng flaen.

Dyma pam mae’r ddogfen ymgynghori heddiw’n datgan y gweithredu brys a roddir ar waith i roi sylw i’r materion hyn - gan roi terfyn ar gontractau cyfredol y CACau yn gynnar yn 2020, gwella’r oruchwyliaeth a’r gefnogaeth ‘drwy’r giât’ yn y cyfamser, a defnyddio’r gwersi sydd wedi’u dysgu hyd yma i sefydlu gwell gwasanaethau gyda threfniadau masnachol mwy effeithiol.

Ochr yn ochr â’r newidiadau strwythurol a chytundebol, bydd cofrestr broffesiynol newydd yn cael ei chyflwyno, gan helpu staff i symud rhwng swyddi a datblygu eu gyrfaoedd. Hefyd mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar wella hyfforddiant a datblygiad staff.

Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio casglu safbwyntiau ac arbenigedd gan amrywiaeth o ddarparwyr posib, gan gynnwys y sector gwirfoddol, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill, a bydd yn sail i ddarparu gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol.

Nodiadau i olygyddion:

  • Ceir 21 CAC ar hyn o bryd: un yng Nghymru ac 20 yn Lloegr.
  • Ceir saith rhanbarth GPC: chwech yn Lloegr ac un yng Nghymru.
  • O dan y cynigion newydd bydd deg rhanbarth prawf newydd yn cael eu creu yn Lloegr. Bydd pob un yn cynnwys un CAC ac un ardal GPC ac yn cael eu goruchwylio gan un arweinydd HMPPS.
  • O dan y trefniadau presennol, mae’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (GPC) yn rheoli troseddwyr risg uwch, gyda’r CACau yn rheoli troseddwyr risg isel a risg ganolig.
  • Nid yw pwerau cyfiawnder troseddol wedi’u datganoli ond mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am agweddau ar y gwasanaeth prawf, fel iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
  • Bydd yr ymgynghoriad yn para am wyth wythnos a defnyddir y canfyddiadau fel sail i’r ddarpariaeth brawf yn y dyfodol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 27 July 2018