Penodi gweinidog newydd â chyfrifoldeb dros eiddo deallusol
Mae Prif Swyddog Gweithredol y Swyddfa Eiddo Deallusol wedi croesawu'r gweinidog newydd.

Mae Kanishka Narayan AS wedi’i gadarnhau fel y Gweinidog newydd â chyfrifoldeb dros eiddo deallusol yn dilyn ei benodiad yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg ar 7 Medi 2025.
Yn siarad am y cyhoeddiad, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y Swyddfa Eiddo Deallusol, Adam Williams:
Rwy’n falch iawn o groesawu Kanishka Narayan AS fel yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol newydd yn yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg, gyda chyfrifoldeb dros eiddo deallusol.
Mae’r DU wedi’i chydnabod yn eang fel un o systemau IP blaenllaw y byd, ac mae eiddo deallusol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatgloi’r potensial creadigol ac arloesol ar draws ein heconomi. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog Narayan i barhau i gefnogi cenhadaeth twf y llywodraeth drwy helpu i sicrhau bod syniadau gwych yn cael eu diogelu, eu masnacheiddio a’u cefnogi i ffynnu.