Stori newyddion

Yr Arglwydd Ganghellor yn croesawu Cwnsleriaid newydd y Brenin

Mae Ei Fawrhydi Y Brenin wedi cymeradwyo penodi 95 o fargyfreithwyr a chyfreithwyr yn Gwnsleriaid newydd y Brenin (CB) yng Nghymru a Lloegr.

Mae Ei Fawrhydi hefyd wedi cymeradwyo penodi naw ffigwr cyfreithiol yn Gwnsleriaid y Brenin Er Anrhydedd.

Dyfernir teitl CB i’r rhai sydd wedi dangos sgiliau ac arbenigedd neilltuol fel dadleuwyr yn y llysoedd.

Dyfernir CB Er Anrhydedd i’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i gyfraith Cymru a Lloegr, heb ymarfer yn y llysoedd.

Bydd yr Arglwydd Ganghellor yn llywyddu’r seremoni benodi yn Neuadd Westminster ar y 27ain o Fawrth 2023, lle bydd yn rhoi’r teitlau yn ffurfiol.

Bywgraffiadau Cwnsleriaid y Brenin er anrhydedd

  • Mae John Battle yn ffigwr blaenllaw ac ymroddedig y tu ôl i fater o ffilmio achosion llys, mae’n arwain y grŵp diwydiant darlledu (BBC, ITN, Sky, PA), ac fe’i cydnabyddir am ei ymrwymiad i’w waith helaeth rhwng y cyfryngau, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r uwch farnwriaeth.

  • Mae Lionel Bently yn athro cyfraith eiddo deallusol a berchir yn gyffredinol ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cafodd ei enwebu am ei gyhoeddiadau sydd ymysg y testunau mwyaf dylanwadol mewn cyfraith eiddo deallusol ac am chwarae rhan hanfodol wrth ddylanwadu ar gyfraith eiddo deallusol yn yr awdurdodaeth hon a thu hwnt.

  • Mae Richard Edwin Ekins yn academydd cyfreithiol ac yn Athro’r Gyfraith a Llywodraeth Gyfansoddiadol ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae’n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau tra dylanwadol. Ers 2015, mae wedi arwain Prosiect Pŵer Barnwrol Policy Exchange ac mae wedi gwneud cyfraniad mawr i’r drafodaeth gyhoeddus, a thrafodaeth seneddol, am rôl gyfansoddiadol y llysoedd.

  • Mae Rosemary Hunter yn Athro’r Gyfraith ac Astudiaethau Cymdeithasol-Gyfreithiol ac yn Bennaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Caint. Mae’n ysgolhaig blaenllaw ym maes y system Gyfiawnder Teuluol ac mae’n eistedd fel Aelod Academaidd y Cyngor Cyfiawnder Teuluol. Mae ei gwaith ym maes pwysig cam-drin domestig wedi cael effaith uniongyrchol ar ddatblygiadau deddfwriaethol.

  • Mae Dr Ann Olivarius yn gyfreithwraig Brydeinig Americanaidd a gydnabyddir yn eang am ei rôl flaenllaw ym meysydd hawliau menywod, aflonyddu rhywiol a cham-drin rhywiol. Mae hi wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn cam-drin rhywiol drwy ddelweddau a thorri preifatrwydd. Chwaraeodd ran allweddol wrth lobïo’r Senedd i basio deddfau yn erbyn datgelu delweddau preifat nad ydynt yn gydsyniol

  • Mae gan Richard Susskind OBE FRSE gadeiriau ym Mhrifysgol Rhydychen, Coleg Gresham a Phrifysgol Strathclyde. Mae wedi gweithio ym maes technoleg a’r gyfraith ers 40 mlynedd ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau yn y maes hwnnw. Mae wedi cael ei gydnabod am ei waith yn hybu technoleg ac arloesed mewn gwasanaethau cyfreithiol a llysoedd ledled Cymru a Lloegr.

  • Roedd James Wakefield yn allweddol yn sefydlu Cyngor Ysbytai’r Frawdlys fel elusen a sefydlu Coleg Dadleuwriaeth Ysbytai’r Frawdlys. Cyflwynodd y Coleg Gwrs Bar dwy ran newydd. Helpodd hefyd i ysgrifennu canllawiau sancsiynau newydd i’r Bar. Mae’r rhain yn dangos ei ymrwymiad i hyrwyddo mynediad i’r proffesiwn ac annog cadw’r rhai sy’n hanu o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

  • Mae Julian Vincent Roberts yn Athro Emeritws Troseddeg ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol yr Academi Ddedfrydu. Fe’i cydnabyddir fel awdurdod academaidd blaenllaw yng Nghymru a Lloegr ar theori dedfrydu, polisi, ac ymarfer; mae ei waith wedi gwneud cyfraniad mawr at ddadansoddi a datblygu dedfrydu ledled y byd.

  • Mae Syr Michael Wood wedi cyfrannu llawer at ddatblygu a chyfundrefnu cyfraith ryngwladol. Mae wedi gwasanaethu’n hir fel aelod o Gomisiwn Cyfraith Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig (ILC). Fel aelod amlwg o’r ILC mae wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy a pharhaol i gyfraith ryngwladol fel y caiff ei dysgu a’i chymhwyso yn y DU a thu hwnt.

Cyhoeddwyd ar 23 December 2022