Stori newyddion

Agor Canolfan Newydd i Gadetiaid ar y Cyd yn Ne Cymru

Mae cadetiaid awyr a chadetiaid y fyddin yng Nglynebwy wedi symud i’w Canolfan Cadetiaid ar y Cyd newydd gwerth £900,000.

New Joint Cadet Centre opens in Ebbw Vale. Copyright: RFCA for Wales

Mae hen adeilad Llu Cadetiaid y Fyddin ar Ffordd Beaufort wedi cael ei ymestyn a’i ailwampio i greu Canolfan Cadetiaid ar y Cyd newydd yn y dref ar gyfer cadetiaid y fyddin a chadetiaid awyr.

Mae’r prosiect wedi cael ei gyflawni gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru a dyma ddatblygiad diweddaraf y Rhaglen Optimeiddio Ystadau Wrth Gefn (REOP) yng Nghymru. Nod y rhaglen yw moderneiddio canolfannau cadetiaid a chreu cyfleusterau newydd ac effeithlon er budd cadetiaid heddiw.

Cafodd yr adeilad ei agor yn swyddogol gan Arglwydd Raglaw Gwent Brigadwr Robert Aitken CBE ar Ddydd Gŵyl Dewi, dydd Sul, 1 Mawrth 2026.

Roedd y seremoni’n cynnwys agor capsiwl amser o 1993, pan symudodd Sgwadron 1158 (Glynebwy), Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, i’w hen gartref, sydd bellach yn ddiangen, yn Rhes y Blanhigfa.

Cafodd y capsiwl amser ei agor gan y Prif Swyddog ar y pryd, yr Awyr Lefftenant Angela Edwards. Roedd yr eitemau’n cynnwys darnau arian a gwaith papur o’r 1990au.

Mae’r ganolfan cadetiaid ar ei newydd wedd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, swyddfeydd, neuadd driliau, storfeydd pwrpasol a cheginau a golchiadau wedi’u moderneiddio.

Dywedodd Phil Young, Pennaeth Ystadau y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru,

Mae’r Rhaglen Optimeiddio Ystadau Wrth Gefn yn dal i wella profiad y cadetiaid ledled Cymru a’r DU drwyddi draw. Mae’r cynllun hwn yn enghraifft wych o sut gall rhesymoli’r ystad ddod â manteision amlwg i’r cadetiaid lleol yn ogystal â chefnogi nodau ehangach yr Adolygiad Strategol o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Cyhoeddwyd yr Adolygiad Strategol o’r Weinyddiaeth Amddiffyn ym mis Mehefin 2025 ac mae’n rhoi gweledigaeth i’r dyfodol gan gynnwys tyfu’r Lluoedd Cadetiaid 30% erbyn 2030.

Dywedodd yr Ail Lefftenant Greg McFarlane, Cadlywydd Llu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys yng Nglynebwy,

Mae uwchraddio adeilad y Ganolfan Cadetiaid ar y Cyd yng Nglynebwy yn newyddion gwych i bobl ifanc yr ardal leol heddiw ac yn y dyfodol; bydd yn rhoi cyfle iddynt brofi’r holl weithgareddau sydd ar gael gan Lu Cadetiaid y Fyddin a Chadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol.

Mae’r adeilad wedi cael ei uwchraddio a’i ymestyn, gan roi amgylchedd cyfoes, dymunol a modern i’r cadetiaid ac i Oedolion sy’n Gwirfoddoli yn Llu’r Cadetiaid gynnal hyfforddiant.

Mae’r buddsoddiad yn yr ardal leol i’w groesawu’n fawr, a dylai hyn helpu i gynyddu diddordeb y bobl ifanc i edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael, a maes o law gynyddu nifer y cadetiaid sy’n mynychu Llu Cadetiaid y Fyddin a Chadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol.

Dywedodd y Swyddog Hedfan Daniel Eacott, Prif Swyddog Sgwadron 1158 (Glynebwy),

Mae’r Ganolfan Cadetiaid ar y Cyd newydd hon yn bennod newydd i’r Sgwadron ac i bobl ifanc Glynebwy. Mae’n fuddsoddiad gwych yn ein tref gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, gan sicrhau ein dyfodol a sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu cenedlaethau newydd o gadetiaid.

Mae’r adeilad yn sylfaen gadarn i ni adeiladu ar ein gwaith a pharhau ag ef, ond hefyd i ddatblygu perthynas waith gyda Llu Cadetiaid y Fyddin Glynebwy.

Bydd yr adeilad hwn yn rhoi cyfle i ni dyfu a chyfarwyddo ein cadetiaid nid yn unig i fod yn ddinasyddion gwell ond hefyd i’w paratoi ar gyfer unrhyw yrfa yr hoffent ei dilyn. Mae’r Corfflu Hyfforddiant Awyr a’n sgwadron yn 85 oed eleni ac felly gyda’r buddsoddiad hwn rydym yn gobeithio parhau am 85 mlynedd arall neu ragor.

Wrth i’r gwaith gael ei wneud roedd cadetiaid y fyddin wedi rhannu â’r cadetiaid awyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Mawrth 2026