Stori newyddion

Canolfan newydd ar gyfer gwyddoniaeth data’r DU yn agor yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi agor ei Champws Gwyddoniaeth Data newydd yn ei Phencadlys yng Nghasnewydd.

SOS Wales & MCO

ONS Data Science Campus launch

Sefydlwyd y Campws i harneisio ffynonellau a thechnolegau data newydd i ddarparu ystadegau ar gyfer llunwyr polisïau a busnesau am economi a chymdeithas y DU.

Mae creu’r adnodd hwn ar gyfer y genedl yn rhan o raglen waith barhaus yr ONS i wynebu’r her o ddarparu mwy o ystadegau cyfoethocach, ac ystadegau amser real, fel sail i oleuo gwaith gwneuthurwyr penderfyniadau.

Wrth siarad yn lansiad y Campws, dywedodd yr Ystadegydd Cenedlaethol, John Pullinger:

Bydd y Campws Gwyddoniaeth Data yn arloesi gyda dulliau newydd a bydd ffynonellau data yn darparu cyfleoedd i wella ystadegau presennol a datblygu allbynnau newydd drwy weithio ar draws y llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd ac elusennau yn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd yr ystod eang o raglenni hyfforddi a dysgu a gynigir gan y Campws hefyd yn ganolog i adeiladu gallu o ran gwyddoniaeth data ar draws y DU. Drwy’r gweithredoedd hyn, bydd y Campws yn ein cynorthwyo i wireddu ein gweledigaeth o ystadegau gwell ar gyfer penderfyniadau gwell.

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Swyddfa’r Cabinet, Ben Gummer, a agorodd y cyfleuster newydd ar ran Llywodraeth y DU:

Rydw i wedi bod yn falch iawn o weld sut mae ONS yn brysur yn trawsnewid ei hun i fod yn sefydliad yn yr unfed ganrif ar hugain sydd â’i ffocws ar ddata. Mae’n ganolbwynt i wyddoniaeth data’r DU ac yn ddarparwr swyddi sgiliedig pwysig yn Ne Cymru. Mae llywodraeth effeithlon ac effeithiol angen data economaidd cywir ac mae’n galonogol gweld sut y mae ONS a’i gweithwyr yn cwrdd â’r sialens hon.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r ehangu ar ganolfan ONS yng Nghasnewydd yn newyddion gwych i’r ardal, gyda champws newydd yn rhan greiddiol ohoni. Mae gennym ni yn awr yng Nghymru gyfleuster arloesol a fydd yn gallu gwasanaethu nid yn unig y sector cyhoeddus, ond busnesau ac entrepreneuriaid preifat hefyd. “Mae gan ONS ddyfodol tymor hir yng Nghasnewydd ac rydw i’n edrych ymlaen at ei gweld yn darparu swyddi o safon uchel ac yn parhau’n nodwedd bwysig o economi ddigidol Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rheoli’r Campws, Tom Smith:

Rydym yn gyffrous ynghylch creu canolfan y DU ar gyfer gwyddoniaeth data yma yng Nghasnewydd, gan adeiladu ar hyn fel cartref ystadegau economaidd. Fel pob sefydliad, mae angen i ONS ddatblygu i gwrdd â gofynion byd sy’n newid. Rydym yn buddsoddi mewn swyddi presennol a swyddi i’r dyfodol yma, yn adeiladu arbenigedd o ran dadansoddi data i gynhyrchu ystadegau hyd yn oed yn well a fydd yn goleuo penderfyniadau sy’n effeithio ar bawb, o’r ffordd y mae llywodraethau yn defnyddio arian trethdalwyr i’r gwasanaethau a dderbyniwn. Mae ein Pencadlys yng Nghasnewydd, a rennir gyda’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), cyflogwr mwyaf Casnewydd, yn cael gwerth £10m o foderneiddio, gan adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i wneud Casnewydd yn gartref i ystadegau o safon byd.

Wrth agor y cyfleuster newydd yn swyddogol, dywedodd y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet, Ben Gummer AS:

Rydw i wedi bod yn falch iawn o weld sut mae ONS yn brysur yn trawsnewid ei hun i fod yn sefydliad yn yr unfed ganrif ar hugain sydd â’i ffocws ar ddata. Mae’n ganolbwynt i wyddoniaeth data’r DU ac yn ddarparwr swyddi sgiliedig pwysig yn Ne Cymru. Yn awr, yn fwy nac erioed, mae’r DU angen data economaidd cywir ac mae’n galonogol gweld sut y mae ONS a’i gweithwyr yn cwrdd â’r sialens hon.

Cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer y Campws y gwanwyn diwethaf fel rhan o gynlluniau parhaus ONS i ddatblygu’r wybodaeth ystadegol a ddarperir ganddi. Bydd y Campws yn gweithio ar brosiectau fel rhan o bum thema, o dan deitl casgliadol Pobl, Y Blaned a Ffyniant:

• Economi’n esblygu • Trefol a gwledig • Cymdeithas • Cynaliadwyedd • Y DU mewn cyd-destun byd-eang

Bydd y Campws Gwyddoniaeth Data yn cydweithio â phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol o’r byd academaidd, y llywodraeth a busnes i gyflawni rhaglenni ymchwil ar y cyd ac i adeiladu gallu’r DU o ran gwyddoniaeth data, gan gynnwys darparu cyfleoedd ar gyfer ymgeiswyr PhD. Fel rhan o hyn, sefydlodd yr ONS y cynllun prentisiaeth Dadansoddi Data cyntaf yn y DU ac mae’n cynllunio mwy o gyfleoedd i hyfforddi pobl yn y sgiliau sydd mor bwysig i wneuthurwyr penderfyniadau yn y DU.

Bydd gwesteion yn y lansiad yn cael cyfle i archwilio adeilad newydd y Campws Gwyddoniaeth Data a chlywed gan wyddonwyr data ar draws ONS, gan gynnwys y prentisiaid, ynghylch y prosiectau cychwynnol sy’n cael eu gweithredu, gwaith ar ddeall yr economi a’r sectorau ariannol, masnach ryngwladol, llif poblogaethau a’r amgylchedd.

Bydd sefydliadau sy’n westeion (Ysgol Fusnes Warwick, Stats Netherland, Flowminder a’r Swyddfa Dywydd yn sôn am y prosiectau y maent hwy wedi gweithio arnynt sy’n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni gyda ffynonellau data newydd er budd y cyhoedd.

Cyhoeddwyd ar 28 March 2017