Datganiad i'r wasg

Bydd canllawiau newydd yn gwneud gofynion profion yn haws i yrwyr gyda diabetes sy’n cael eu trin ag inswlin

Bydd gan yrwyr sy’n trin eu diabetes gydag inswlin fwy o ddewis o ran sut maent yn profi eu lefelau glwcos o dan canllawiau newydd a gyhoeddir gan DVLA heddiw.

Mae’r diweddariad yn golygu y gall gyrwyr nawr dewis i ddefnyddio dyfeisiadau monitro glwcos fflach a pharhaus i gymryd darlleniadau glwcos cyn iddynt yrru, neu yn ystod egwyl gyrru. Hyd nawr, bu’n rhaid i yrwyr brofi eu lefelau glwcos gyda darlleniad gwaed drwy bricio bys dim mwy na 2 awr cyn gyrru ac wedyn eto yn ystod egwyl o bob dwy awr o yrru.

Dywedodd Julie Lennard, Prif Weithredwr DVLA:

Rydym am ei wneud mor hawdd a diogel â phosibl i yrwyr bod ar y ffyrdd. Mae ein panel o arbenigwyr meddygol sy’n helpu creu’r safonau meddygol ar gyfer gyrru o hyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio technoleg newydd, ac rydym yn falch ein bod yn gallu cynnig ffordd arall i’n gyrwyr i fonitro eu lefelau glwcos.

Mae’r canllawiau wedi cael eu diweddaru yn dilyn trafodaethau gyda Phanel Cynghori Meddygol Anrhydeddus yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar yrru a diabetes mellitus. Mae’r panel yn cynnwys arbenigwyr meddygol blaenllaw mewn diabetes, meddygon DVLA, aelodau lleyg ac arsylwyr o sefydliadau eraill. Mae’n gweithio ar y cyd gyda DVLA i ddarparu cyngor arbenigol gyda’r bwriad o gynnal a gwella diogelwch y ffyrdd.

Dywedodd Nikki Joule, Rheolwr Polisi Diabetes UK:

Mae’r canllawiau newydd, sy’n golygu bod Monitro Glwcos Fflach a Monitro Glwcos Parhaus yn gallu cael eu defnyddio i yrru, yn fuddugoliaeth enfawr i bobl sydd â diabetes.

Mae technoleg arloesol fel hyn yn gwneud bywyd yn haws i bobl, oherwydd mae’n gwellhau eu gallu i fonitro eu lefelau glwcos gwaed o ddydd i ddydd a rheoli eu cyflwr yn ddiogel, gan gynnwys tra yrru.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda DVLA i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda diabetes yn cael eu trin yn deg, a bod pawb yn gallu dal trwydded yrru os maent yn bodloni’r safonau ffitrwydd i yrru.

Nodiadau i olygyddion

1) Mae’r canllawiau ar brofion glwcos a gyhoeddir heddiw yn gymwys ar gyfer gyrwyr ceir a beiciau modur sy’n trin eu diabetes ag inswlin. Mae’r gofynion profion glwcos ar gyfer gyrwyr bws a lori yn parhau’r un peth (darlleniad gwaed drwy bricio bys).

2) Gall gyrwyr barhau i ddefnyddio darlleniadau prawf gwaed drwy bricio bys i brofi eu lefelau glwcos gwaed, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer gyrwyr sy’n parhau i ffafrio profion yn y modd hwn. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer gyrwyr sy’n trin eu diabetes gyda thabledi, diet neu’r ddau.

3) Gall gyrwyr wisgo monitor glwcos (sydd yn synhwyrydd bach) ar eu croen. Mae’r synwyryddion hyn yn cofnodi lefel glwcos y gyrrwr yn barhaus. Defnyddir Monitorau Glwcos Fflach drwy sganio’r synhwyrydd yn gorfforol gyda dyfais yn eich llaw fel sydd eu hangen i gael darlleniadau. Mae dyfeisiadau monitro glwcos parhaus yn trosglwyddo darlleniad parhaus i ddyfais yn eich llaw, ffôn neu oriawr yn uniongyrchol o’r synhwyrydd.

4) Os ddefnyddir dyfeisiadau glwcos fflach neu barhaus, mae dal rhaid i yrwyr gadarnhau eu lefel glwcos gwaed gyda phrawf drwy bricio bys os:

  • yw ei lefel glwcos yn 4.0 mmol/L neu is
  • they experience symptoms of hypoglycaemia
  • yw’r system fonitro glwcos yn rhoi darlleniad nad yw’n gyson gyda’r symptomau yr ydynt yn eu cael (er enghraifft maent yn teimlo symptomau hypoglycaemia ond nid yw’r darlleniad yn dynodi hyn)

5) Mae’n rhaid i yrwyr sy’n trin eu diabetes ag inswlin roi gwybod i DVLA. Nid oes rhaid i yrwyr sy’n trin eu diabetes drwy ddiet yn unig roi gwybod i DVLA. Os ydych mewn unrhyw amheuaeth, dylai gyrwyr siarad â’u meddyg neu weithiwr proffesiynol meddygol sy’n gysylltiedig a’u triniaeth.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 14 February 2019