Datganiad i'r wasg

Mae ymgyrch newydd DVLA ‘trethwch ef neu collwch ef’ wedi ei anelu at osgowyr treth car

Fel rhan o ymgyrch cenedlaethol DVLA sy’n lansio heddiw (dydd Gwener 3 Tachwedd 2017), mae gyrwyr yn cael ei rybuddio y bydd eu ceir yn cael ei gymryd i ffwrdd os nad ydynt wedi eu trethu.

Image of a man clamping a car

Trwy ddefnyddio car sydd wedi clampio ac wedi’i baentio â llaw i edrych yn dryloyw, mae neges yr hysbysiad yn glir i osgowyr treth – ‘hyd yn oed os ydych yn meddwl eich bod yn anweladwy i’r DVLA, nad ydych – trethwch eich car neu risgio ei golli.’

Bydd yr hysbysiadau sy’n rhedeg trwy gydol mis Tachwedd yn lansio ar y radio, teledu ar gais, ar-lein ac mewn papurau newydd.

Dywedodd Oliver Morley, Prif Weithredwr DVLA:

Mae’r ymgyrch hon yn targedu’r rhai sy’n torri’r gyfraith trwy beidio â threthi eu car. Tra bod y mwyafrif o gerbydau ar y ffordd wedi ei drethu’n iawn, mae’n ddim ond yn deg ein bod ni’n gweithredu yn erbyn y rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n gallu osgoi talu treth car. Mae’r gyfraith a’r canlyniadau yn glir – os nad ydych yn trethu eich car, rydych yn risgio ei golli.

Y ffaith yw ni fu erioed yn haws i drethu eich car. Mae ein system ar-lein ar gael 24 awr y dydd a gyda Debyd Uniongyrchol, gallwch ddewis i ledaenu’r gost dros y flwyddyn; does dim esgus mewn gwirionedd i osgoi trethu’ch cerbyd.

Tra bod 98% o gerbydau ar y ffordd gyhoeddus yn y DU wedi trethu yn gywir, mae’r DVLA dal yn clampio neu atafaelu tua 10,000 o gerbydau bob mis.

Mae DVLA yn dal cofnodion dros 39 miliwn o gerbydau yn y wlad. Mae’r hysbyseb yma yn ffocysu ar y ffaith i’r rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n gallu osgoi trethu eu car, mae gan DVLA y gallu i weithredu yn eu herbyn.

Mae’r ymgyrch yn defnyddio’r hashnod #TaxItOrLoseIt i atgoffa gyrwyr i wneud y peth iawn ac i drethu eu cerbyd pan mae’n ddyledus i osgoi colli eu car.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 3 November 2017