Datganiad i'r wasg

Mae gwasanaeth tacograff ar-lein DVLA yn torri amseroedd aros ac yn caniatáu taliadau ar unwaith

Mae gyrwyr lori, bws a choets yn awr yn gallu gwneud cais a thalu am eu cardiau tacograff ar-lein mewn munudau diolch i wasanaeth digidol newydd DVLA.

Bydd tua 780,000 o yrwyr sy’n ddeiliaid cerdyn tacograff yn gallu defnyddio gwasanaeth newydd DVLA Gwneud cais am, adnewyddu neu amnewid cerdyn tacograff gyrrwr.

Er bod gyrwyr yn dal i allu dewis cwblhau cais papur a’i anfon yn y post, mae’r gwasanaeth ar-lein yn gyflymach ac yn haws i yrwyr. Mae ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos; a dylai gyrwyr gael eu cerdyn tacograff wedi’i ddosbarthu o fewn 24 awr o wneud cais o gymharu a 10 niwrnod neu ragor wrth bostio’u ceisiadau papur.

Mae angen trwydded yrru cerdyn-llun Prydain dilys ar yrwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i wneud cais. Ar ôl gwneud cais, byddant yn derbyn hysbysiad e-bost yn cadarnhau eu cais, ac yn gallu dewis cael eu diweddaru ar ei hynt trwy neges destun.

Mae’r gwasanaeth ar-lein newydd ar gyfer cardiau tacograff gyrwyr yn dilyn lansiad gwasanaeth cerdyn tacograff cwmni DVLA yn 2019, a welodd geisiadau cerdyn cwmni yn symud ar-lein am y tro cyntaf.

Dywedodd Prif Weithredwr DVLA Julie Lennard:

Rydym wrth ein bodd i lansio ein gwasanaeth tacograff gyrwyr newydd ar-lein.

Bydd y gwasanaeth cyflym a hawdd i’w ddefnyddio hwn yn rhoi hyblygrwydd helaethach i yrwyr sydd angen cardiau tacograff ynglŷn a sut, pryd a lle mae’n nhw’n delio â ni, a byddant yn cael eu cerdyn newydd yn ôl hyd yn oed yn gyflymach.

Gellir cyrchu’r gwasanaeth ceisio am gerdyn tacograff digidol gyrrwr ar-lein trwy GOV.UK

Nodiadau i olygyddion:

Y gwasanaethau cerdyn tacograff ar-lein newydd yw gwasanaethau digidol cyntaf DVLA i symud yn llawn i system newydd DVLA wedi’i seilio yn y cwmwl. Mae hyn yn hwyluso’r ffordd ar gyfer gwelliannau fydd yn caniatáu hyblygrwydd helaethach mewn sut fydd gwasanaethau’r dyfodol yn cael eu darparu a’u cynorthwyo, gan roi rhagor o ddewis i gwsmeriaid ynghylch sut a phryd y byddant yn delio â DVLA.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 22 June 2021