Skip to main content
Stori newyddion

Ymgyngoriadau newydd wedi eu lansio ar ddyfodol ffïoedd a chael gafael ar ddata

Mae Cofrestrfa Tir EF yn ymgynghori ar ddyfodol ei strwythur ffïoedd ac ar gynyddu ffyrdd y gellir cael gafael ar ddata am berchnogaeth tir.

Mae Cofrestrfa Tir EF yn lansio dau ymgynghoriad mewn ymgais i wneud ei ffïoedd yn gliriach ac yn symlach i gwsmeriaid, ac i’w gwneud yn haws iddynt gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Ar hyn o bryd, mae ffïoedd cofrestru yn seiliedig yn bennaf ar werth yr eiddo, a gall fod yn anodd pennu hynny mewn rhai amgylchiadau, gan arwain at ymholiadau ac oedi pellach. Mae Cofrestrfa Tir EF yn cynnig dull symlach o ymdrin â ffïoedd Graddfa Dau (trosglwyddiad lle nad oes arian yn newid dwylo neu lle telir llai na gwerth y farchnad, a chofrestru morgais) ac yn ceisio barn ar y dull newydd hwn.

Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn, mae Cofrestrfa Tir EF hefyd yn gofyn am farn ar gyfres o fesurau i wella’r ffordd y gellir cael y data sydd ganddi, gan gynnwys sicrhau bod y data ar gael yn dd-dâl i’r sector cyhoeddus. Mae hefyd yn ystyried setiau data ar ddaliadau tir sylweddol a thir a ddelir gan endidau masnachol. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried y ffordd orau o gefnogi’r rhai y mae angen iddynt gael gafael ar y wybodaeth sydd gan y sefydliad yn haws, ac sy’n gallu elwa ar hynny, gan leihau risgiau ar yr un pryd.

Dywedodd y Farwnes Taylor, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Mae gwybodaeth a ddelir gan Gofrestrfa Tir EF yn hollbwysig i’n helpu i wneud penderfyniadau doethach ynghylch sut y defnyddir tir i adeiladu’r cartrefi a’r seilwaith sydd eu hangen arnom. Dyna pam rydym wedi lansio ymgynghoriad newydd i wella’r ffordd y gellir cael gafael ar y data amhrisiadwy hyn i adeiladwyr tai, busnesau a chymunedau lleol

O dan ein cynigion, byddai pawb yn gallu defnyddio setiau data sy’n dangos perchnogaeth ar draws y mwyafrif helaeth o dir yng Nghymru a Lloegr, gan helpu i gynyddu tryloywder a chefnogi penderfyniadau mwy gwybodus am ddefnydd tir. Mae hyn ochr yn ochr â chynigion i symleiddio strwythur ffïoedd Cofrestrfa Tir EF, a fydd yn helpu i osgoi oedi diangen wrth ddefnyddio ei gwasanaethau.

Dywedodd Iain Banfield, Prif Weithredwr Cofrestrfa Tir EF:

Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gwasanaethau’n haws i bawb. Er mwyn gwneud hyn, mae angen inni ddeall a chydbwyso anghenion y miloedd o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn. Mae gan y cynigion yn yr ymgynghoriadau hyn y potensial i wella’n sylweddol y ffordd rydym yn gweithio gyda’n cwsmeriaid, a bydd adborth yn cryfhau’r cynigion hyn ymhellach.

Mae’r cynigion wedi eu cynllunio i gydbwyso manteision mwy o dryloywder â risgiau i breifatrwydd a’r effaith ar incwm Cofrestrfa Tir EF. Bydd faint o wybodaeth a fyddai ar gael yn dibynnu ar bwy fyddai’n ei defnyddio ac at ba ddiben, gyda mesurau diogelu cymesur yn berthnasol ym mhob achos:

  • Byddai pawb, gan gynnwys unigolion, busnesau a grwpiau cymunedol, yn gallu defnyddio setiau data y gellir eu mapio sy’n dangos perchnogaeth y mwyafrif helaeth o dir yng Nghymru a Lloegr. Byddent hefyd yn gallu archwilio’r wybodaeth deitl fanylach am y tir hwnnw yn ddi-dâl. Ni fyddai’r trefniant cyffredinol hwn ar gyfer y cyhoedd yn cynnwys gwybodaeth am y mwyafrif o berchnogion cartrefi cyffredin.

  • Byddai cyrff y sector cyhoeddus yn gallu cael gafael ar wybodaeth ar draws holl deitlau Cofrestrfa Tir EF, gan gynnwys teitlau preswyl, a hynny’n ddi-dâl.

  • Byddai ymchwilwyr sy’n gweithio er budd y cyhoedd, megis academyddion, rheoleiddwyr a newyddiadurwyr ymchwiliol, hefyd yn gallu cael y wybodaeth ar draws pob teitl yn rhad ac am ddim, ar yr amod eu bod yn gallu dangos diben er budd y cyhoedd a bodloni gofynion priodol o ran defnydd diogel a chyhoeddi cyfrifol.

Mae’r dull hwn yn bosibl oherwydd bod y rhan fwyaf o deitlau unigol yn ymwneud â chartrefi, tra bod y rhan fwyaf o’r tir ei hun yn cael ei ddal mewn teitlau amhreswyl mwy. Gallwn felly sicrhau bod gwybodaeth am y mwyafrif helaeth o dir ar gael yn eang i’r cyhoedd, gan sicrhau mai dim ond cyrff cyhoeddus ac ymchwilwyr cymeradwy sy’n gweithredu er budd y cyhoedd all weld gwybodaeth am y nifer llawer mwy o deitlau preswyl sy’n fwy sensitif o ran preifatrwydd.

Mae hyn yn wahanol i’r drefn bresennol, lle mae pob teitl ar gael i’r cyhoedd, ond dim ond yn unigol y gellir cael y rhan fwyaf ohonynt, sef ar ffurf ffeiliau PDF sy’n costio £7 yr un. Y prif eithriad yw’r 16% o deitlau sy’n eiddo i gyrff corfforaethol. Mae Cofrestrfa Tir EF eisoes yn sicrhau bod data perchnogaeth ar eu cyfer ar gael i’r cyhoedd mewn swmp.

Bydd y ddau ymgynghoriad hyn ar agor rhwng 27 Hydref a 22 Rhagfyr 2026, a rhoddir ymateb llawn i bob un yn fuan wedyn. Mae’r sefydliad yn awyddus i gael ymatebion gan ystod eang o fudd-ddeiliaid ac unrhyw un sydd â diddordeb, a bydd yn cysylltu’n uniongyrchol â budd-ddeiliaid allweddol.

Darllenwch y cynigion yn llawn ac ymatebwch i’r ymgynghoriadau trwy’r cysylltau isod:

Ailstrwythuro ffïoedd Cofrestrfa Tir EF

Dyfodol y ffordd y ceir gwybodaeth gan Gofrestrfa Tir EF