Stori newyddion

Cronfa newydd gwerth £26 miliwn i helpu awdurdodau lleol i gyflymu trosglwyddiadau data

Mae Trysorlys EM yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i gynghorau sy'n mudo eu gwasanaeth pridiannau tir lleol i Gofrestrfa Tir EM.

Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y Gwir Anrhydeddus Steve Barclay AS, wedi cyhoeddi y bydd cronfa gwerth £26 miliwn yn cael ei chreu i helpu i ddarparu gwasanaeth chwilio eiddo cyflymach i brynwyr tai yng Nghymru a Lloegr trwy Gofrestr Pridiannau Tir Lleol genedlaethol.

Fis Rhagfyr y llynedd, rhannwyd ein huchelgais i fudo pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr i’r gofrestr ganolog erbyn 2025. Mae’r cyllid hwn yn gwneud y targed hwnnw’n fwy cyraeddadwy a bydd yn sicrhau bod y broses o brynu cartref yn dod yn gyflymach a symlach i bawb.

Bydd awdurdodau lleol sy’n trosglwyddo eu data pridiannau tir lleol i’n Cofrestr Pridiannau Tir Lleol o fewn amserlen y cytunwyd arni yn cael taliadau pontio. Yn ogystal, byddant yn parhau i gael taliadau beichiau presennol. Mae hyn yn golygu bod y gefnogaeth ariannol gyfan sydd ar gael i awdurdodau lleol bellach dros £40 miliwn.

Dywedodd Karina Singh, Cyfarwyddwr Trawsnewid Cofrestrfa Tir EM:

Rydym yn deall y dirwedd economaidd ansicr sy’n wynebu llawer o awdurdodau lleol a’r problemau o ran adnoddau sy’n cael eu creu gan hyn. Yn y DU, eiddo yw un o’r buddsoddiadau sengl mwyaf a wneir gan lawer o bobl o hyd. Rydym am helpu prynwyr i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, mewn ffordd gyflymach a symlach.

Mae ymchwil yn awgrymu bod 6% o drafodion eiddo yn methu, gan gostio rhwng £700 a £2,700 y trafodiad. Trwy alluogi i’r wybodaeth Pridiannau Tir gael ei chyrchu’n gynharach, dylai’r costau hyn leihau, gan wneud y broses drawsgludo yn well i bob parti.

Bydd pob awdurdod lleol sy’n mudo ei wasanaeth Pridiannau Tir i’r gofrestr genedlaethol yn gymwys i gael taliad ar ôl cyrraedd y cerrig milltir y cytunwyd arnynt. Bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd ariannol i’r awdurdodau y gallant dalu costau cysylltiedig, wrth symud eu gwasanaeth yn ddirwystr i’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Rhaglen Pridiannau Tir Lleol.

Cyhoeddwyd ar 10 May 2021