Stori newyddion

Gwasanaeth pridiannau tir lleol cenedlaethol ar gael yng Nghymru

Gall awdurdodau lleol Cymru drosglwyddo eu gwasanaethau Pridiannau Tir Lleol i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EM o 1 Ebrill 2021.

Billy Stock/Shutterstock.com

O heddiw (1 Ebrill 2021), daw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffïoedd) (Cymru) 2021 i rym. Mae’r rheolau hyn yn alinio ffïoedd gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol Cymru sy’n daladwy i’r Prif Gofrestrydd Tir â’r rhai sy’n daladwy yn Lloegr. Bydd yn galluogi trosglwyddo data Pridiannau Tir Lleol awdurdodau lleol Cymru i’r gofrestr ganolog.

Dywedodd Allison Bradbury, Pennaeth Gweithredu Pridiannau Tir Lleol:

Mae’r rhaglen Pridiannau Tir Lleol wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgynghoriad ar Bridiannau Tir Lleol (Ffïoedd) a chyflwyno’r ddeddfwriaeth.

Bellach, mae gan awdurdodau lleol Cymru gyfle i elwa ar wasanaeth digidol wedi ei foderneiddio sy’n manteisio ar gyflymder a symlrwydd.

Mae’r gofrestr genedlaethol yn darparu budd uniongyrchol a pharhaol i brynwyr eiddo ac awdurdodau lleol. Mae prynwyr sy’n gofyn am chwiliad yn cael gwybodaeth ar unwaith, ar ffurf safonol hawdd ei darllen, am ffi sefydlog, gan ganiatáu penderfyniadau amserol ac effeithiol. Mae’r set ddata gwbl ddigidol hefyd yn cefnogi meysydd gwasanaeth eraill awdurdodau lleol, sy’n lleihau baich gweithredol rhedeg gwasanaeth Pridiannau Tir Lleol.

Fis Rhagfyr y llynedd, rhannwyd ein huchelgais i fudo holl gofnodion Pridiannau Tir Lleol awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i’r gofrestr genedlaethol erbyn 2025. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn dechrau mudo cofnodion cyntaf awdurdodau lleol Cymru. Bydd hyn yn golygu y bydd prynwyr eiddo yng Nghymru, cyn hir, yn gallu cyrchu canlyniadau chwiliadau Pridiannau Tir Lleol ar unwaith, yn seiliedig ar ddata geo-ofodol o ansawdd uchel. A gall awdurdodau lleol fanteisio ar yr holl fuddion y mae’r setiau data hyn yn eu cynnig. Bydd canlyniadau chwiliadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Gweler y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Cyhoeddwyd ar 1 April 2021