Datganiad i'r wasg

Yr ‘enwau’ ar frig y rhestr i’r rhai hynny sy’n dymuno rhif cofrestru personol y Nadolig hwn

Pe bai’r dewis, byddai 3 allan o 4 o fodurwyr yn dymuno i’w henwau nhw fod ar rif cofrestru pe byddent yn cael rhif cofrestru cerbyd fel anrheg, yn ôl arolwg diweddar.

Siaradodd y DVLA â thua 1,000 o fodurwyr i gael eu syniadau am rifau cofrestru personol i gerbydau. Tra bod enwau neu lysenwau ar frig y rhestr, roedd rhifau cofrestru sy’n cynrychioli busnes hefyd yn ddewis poblogaidd. Yn dilyn hyn roedd cofrestriadau a oedd yn cynrychioli hoff dîm chwaraeon neu anifail anwes.

Roedd un o bob deg o’r rhai hynny a gymrodd rhan yn yr arolwg wedi derbyn rhif cofrestru cerbyd fel anrheg.

Ar hyn o bryd, mae’r rhifau cofrestru sy’n cael eu chwilio amdanynt mwyaf, ar wefan Rhifau Cofrestru’r DVLA yn cynnwys BE11 CKY a SB51 MON.

Mae gan Cofrestriadau Personol y DVLA dros 50 miliwn o gofrestriadau ar gael i’w prynu ar-lein, ac os yw cwsmeriaid yn prynu un cyn 15 Rhagfyr, bydd y rhif cofrestru yn cyrraedd mewn pryd erbyn y Nadolig.

Tra bod rhai rhifau cofrestru cerbyd yn gallu gwerthu mewn ocsiwn am gannoedd o filoedd o bunnoedd, bydd y rhai hynny sy’n chwilio am anrhegion sy’n costio llai yn gallu dod o hyd i rifau cofrestru sy’n dechrau at dim ond £250.

Dywedodd Jody Davies, Uwch Rheolwr Gwerthiant Rhifau Cofrestru Personol DVLA:

Gydag enwau ar frig y rhestr ar gyfer hoff gofrestriadau personol, rydym yn gwybod bod pobl yn gwerthfawrogi’r meddwl sy’n mynd i mewn i’r anrheg. Trwy ddefnyddio’r cyfleuster chwilio ar ein gwefan, gall cwsmeriaid rhoi gynnig ar wahanol gyfuniadau i ddod o hyd i’r anrheg berffaith ar gyfer y modurwr.

A chyda dros 50 miliwn o gofrestriadau ar gael mae digon o gyfleoedd i fod yn greadigol ac i gipio plât erbyn y Nadolig.

Gall cofrestriadau personol cael eu prynu 24 awr y dydd ar-lein. Gall tîm arbenigol hefyd helpu cwsmeriaid i ddod o hyd i’r rhif cofrestru maent yn dymuno dros y ffôn drwy ffonio 0300 123 0883. Mae llinellau ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener 8:00am i 4:30pm.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 29 November 2017