Mwy na 50 o gwmnïau o Gymru i'w disgwyl ym mhrif uwchgynhadledd allforio Llywodraeth y DU
Mwy na 50 o gwmnïau o Gymru i'w disgwyl ym mhrif uwchgynhadledd allforio Llywodraeth y DU.

Disgwylir mwy na 50 o gwmnïau o Gymru ym mhrif uwchgynhadledd allforio Llywodraeth y DU a sefydlwyd i helpu allforwyr i werthu mwy ledled y byd.
Mae’r digwyddiad – a gaiff ei gynnal ar 6 Mawrth yn Neuadd y Ddinas Caerdydd – yn cael ei redeg ar y cyd gan Swyddfa Cymru a’r Adran Masnach Ryngwladol. Bydd yn drwyn ynghyd o dan un to amrywiaeth o allforwyr a all gynnig cyngor ymarferol ar y canlynol:
- Gwneud cais am grantiau neu gymorth ariannol gydag allforion
- Cael gwybodaeth am y farchnad mewn gwledydd ledled y byd
- Sut i ddelio â rheolau a biwrocratiaeth mewn marchnadoedd newydd
- Sut y gall Llywodraeth y DU gefnogi ffeiriau masnach ac arddangosfeydd dramor
- Cyngor ar ddiogelu eich syniadau gan y Swyddfa Eiddo Deallusol
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Cymru eisoes yn allforiwr llwyddiannus – yn anfon adenydd awyrennau i’r byd, technoleg oeri i’r Dwyrain Canol a fformatau teledu i ddwsinau o wledydd. Mae ein marchnad allforio’n werth tua £11bn y flwyddyn.
Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn creu cyfleoedd masnachu newydd. Rôl yr uwchgynhadledd hon yw helpu i gysylltu ein cymuned fusnes wych yma yng Nghymru â chanllawiau a thiwtoriaid arbenigol i sicrhau eu bod yn cael cychwyn cadarn wrth i ni daro bargeinion masnachu newydd.
Y bwriad yw casglu amrywiaeth o arbenigwyr ynghyd mewn un lle a all gyflwyno eich busnes i farchnadoedd newydd. Rydw i’n annog pawb sydd eisiau gwerthu mwy dramor – neu hyd yn oed ystyried yr opsiynau – i ddod.
Bydd cyflwyniadau hefyd gan gwmnïau llwyddiannus yn cynnwys y cwmni gweithgynhyrchu offer thermol SPTS Technologies, y peirianyddion sifil Dawnus a’r asiantaeth greadigol Cloth Cat Animation – sydd newydd ennill contract mawr gyda darlledwyr o China.
Gallwch ddod i’r uwchgynhadledd am ddim – cofrestrwch ar-lein drwy ddilyn y ddolen