Stori newyddion

Ardal Brawf Sir Fynwy i baratoi’r ffordd ar gyfer technoleg 5G

Ardaloedd prawf ar draws y DU yn arwain yr ymdrechion i sefydlu’r DU yn arweinydd byd-eang ym maes 5G

From L-R – Welsh Secretary Alun Cairns, Jan Thomas (Textiles at the Weir), Marc Edwards (Broadway Partners) & Barry Weaver (Broadway Partners)

From L-R: Welsh Secretary Alun Cairns, Jan Thomas (Textiles at the Weir), Marc Edwards (Broadway Partners) & Barry Weaver (Broadway Partners)

Yn ystod ymweliad â’r Ardal Brawf 5G yn Sir Fynwy, clywodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, fel y mae arian Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r dechnoleg 5G ddiweddaraf ar draws y DU.

Ar ôl cael cyfran o’r £3.5 miliwn o arian gan Lywodraeth y DU y llynedd, mae’r ardal brawf yn Llanddewi Rhydderch wedi dechrau treialu defnyddiau arloesol i 5G i greu cysylltiadau cryfach i drigolion, busnesau, ffermwyr ac ymwelwyr.

Yn ogystal â’r safle yn Sir Fynwy, mae chwe ardal brawf arall wedi cael eu datblygu yn Cumbria, Northumberland, Gogledd Swydd Efrog, Swydd Lincoln, Swydd Inverness a Swydd Perth. Daeth yr arian fel rhan o Strategaeth Ddigidol Llywodraeth y DU sy’n ceisio datblygu economi ddigidol gyda’r gorau yn y byd sy’n gweithio i bawb.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae’n wych gweld â’m llygaid fy hun fel y mae arian gan Lywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio yn Sir Fynwy i drawsnewid cysylltedd yn ein cymunedau gwledig.

Mae potensial i ddefnyddio 5G i gynyddu cynhyrchiant bwyd ym maes ffermio, gwella gofal iechyd yn y cartref a datblygu apiau ar gyfer twristiaid – bydd y rhain i gyd yn hwb bwysig i’n heconomi wledig.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wireddu ein haddewid i greu Teyrnas Unedig sy’n addas ar gyfer y dyfodol, gydag economi ddigidol lewyrchus ym mhob rhan o’r wlad.

Dywedodd Barry Weaver, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Broadway Partners:

Rydyn ni’n credu bod modd sicrhau cysylltedd Gigabit erbyn 2025 drwy’r gymysgedd iawn o dechnoleg, gwybodaeth arbenigol arbennig a rhywfaint o egni cadarnhaol! Profodd y peilot 5G yn Sir Fynwy fod modd darparu gwasanaethau Gigabit i gymunedau ar gyflymder uchel iawn. Rydyn ni yn y broses o ailadrodd hyn drwy’r wlad i gyd. Gadewch i ni fwrw iddi a chwblhau’r gwaith.

Gan gymryd cam arall tuag at wlad sydd wedi’i chysylltu’n llwyr, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn cyflwyno deddf newydd a fydd yn sicrhau bod y naw miliwn o bobl yn y DU sy’n byw mewn blociau o fflatiau yn gallu manteisio ar fand eang ar gyflymder gigabit.

Bydd yn ei gwneud yn haws gosod cysylltiadau rhyngrwyd cyflymach mewn blociau o fflatiau lle mae landlordiaid yn anwybyddu ceisiadau am fynediad gan gwmnïau band eang, dro ar ôl tro. Amcangyfrifir y bydd 3,000 o adeiladau preswyl ychwanegol y flwyddyn yn cael eu cysylltu yn y DU o ganlyniad.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn gynharach y mis hwn am £5 biliwn o arian newydd i ddod â band eang sy’n gallu gweithredu ar gyflymder gigabit i’r rhannau anoddaf eu cyrraedd o’r DU.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 10 October 2019