Stori newyddion

Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn lansio cynllun peilot ar gyfer adnodd Diffyg Atgyweirio Cyflwr Tŷ

Bydd yr adnodd ar-lein yn darparu gwybodaeth wedi’i deilwra i unigolion, cyfarwyddyd a'r gallu i gyfeirio i'w helpu i ddatrys materion diffyg atgyweirio cyflwr tŷ cyn i'w problemau waethygu.

Person replacing light

Mewn cydweithrediad â’r Weinyddiaeth Dai, Llywodraeth Leol a Chymunedol, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio peilot cyfeirio cefnogaeth gyfreithiol ar-lein i helpu unigolion i ddatrys materion diffyg atgyweirio cyflwr tŷ sy’n cael ei rentu’n breifat.

Bydd yr adnodd ar-lein yn arwain unigolion drwy lwybr wedi’i dywys er mwyn canfod y broblem a chynnig gwybodaeth, cyfarwyddyd a gwasanaeth cyfeirio wedi’i deilwra. Mae hyn yn anelu i’w helpu i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau, a nodi cam nesaf priodol wrth geisio datrys materion cyn i broblemau waethygu.

Mae hon yn garreg filltir bwysig yng Nghynllun Gweithredu Cymorth Cyfreithiol y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i edrych ar nifer o newidiadau ar hyd a lled cymorth cyfreithiol, gan ganolbwyntio ar ba gymorth cyfreithiol sy’n gweithio i’r bobl sydd ei angen.

Dywedodd yr Arglwydd Wolfson, y Gweinidog dros Gyfiawnder:

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bobl fynediad at gymorth cyfreithiol cynnar am ei fod yn bwysig bod problemau’n cael eu datrys cyn iddynt waethygu. Bydd y cynllun peilot hwn yn ein helpu i ddeall rôl cymorth cyfreithiol cynnar a sut gellir cynllunio hyn yn unol â beth sy’n gweithio i bobl sydd ei angen.

Rwyf yn falch ein bod yn gallu darparu’r gwaith hwn gyda chefnogaeth gan Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a mudiadau’r sector cyngor.

Cyhoeddwyd ar 24 June 2021