Datganiad i'r wasg

Arbed miliynau ar reolaeth adnoddau

DSA wedi llofnodi cytundeb rheoli adnoddau pedair blynedd gydag Interserve, y grŵp gwasanaethau, cynnal a chadw ac adeiladu.

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) wedi llofnodi cytundeb rheoli adnoddau pedair blynedd gydag Interserve, y grŵp gwasanaethau, cynnal a chadw ac adeiladu.

Mae’r cytundeb, sydd werth tua £12 miliwn, wedi ei lofnodi fel rhan o broses caffaeliad cydweithredol gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) ar gyfer asiantaethau yr Adran Drafnidiaeth (DfT) gan gynnwys y DSA a’r Yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA).

Bydd Interserve yn darparu gwasanaethau i ystad y DSA sydd yn cwmpasu 439 eiddo dros Brydain Fawr, gan gynnwys eu prif swyddfa yn Nottingham, y ganolfan hyfforddi a datblygu yn swydd Bedford, y ganolfan weinyddu yn Newcastle a 418 canolfan profion gyrru.

Bydd y cytundeb yn cynnwys prif swyddfa a chanolfan hyfforddiant VOSA ym Mryste ac mae’n bosibl y caiff ei ymestyn i gynnwys rhannau eraill o’r Adran.

Meddai Rosemary Thew, prif weithredwr y DSA:

Mae cynnig gwerth am arian o’r pwys mwyaf i’r DSA a’r asiantaethau partner ar draws y DfT. Mae Interserve wedi dangos agwedd arloesol tua at gyflwyno gwasanaethau mwy effeithiol a chost-effeithiol yn yr hinsawdd economaidd sydd yn bodoli a bydd hyn yn ychwanegu at ein cynilion. Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda nhw a’n cydweithwyr yn VOSA i gael y buddion hyn.

Trwy brynu gwasanaethauoddi wrth un cyflenwr, bydd asiantaethau DfT yn lleihau costau dros 40% ac yn gwella safonau gwasanaethau. Bydd Interserve yn cynnig gwasanaethau fydd yn cynnwys cynnal a chadw, cyfleustodau a rheoli gwastraff, glanhau a diogelwch, a desg gymorth, derbynfa a switsfwrdd.

Cyhoeddwyd ar 14 June 2011