Cyhoeddi cytundeb i gynhyrchu meddyginiaeth hanfodol yng Nghymru wrth i Ysgrifennydd Cymru gyhoeddi rhaglen newydd i hyrwyddo masnach a buddsoddiad
Mae £23 miliwn yn cael ei fuddsoddi a mwy na 40 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y sector gwyddorau bywyd sy’n tyfu yng Nghymru.
-
Bydd 44 o swyddi newydd yn cael eu creu wrth i brif sector gwyddorau bywyd Cymru barhau i dyfu.
-
Bydd buddsoddiad o £23 miliwn yn ehangu’r gwaith o gynhyrchu cynnyrch fferyllol hanfodol yng nghyfleuster Norgine yn Hengoed.
-
Mae’r buddsoddiad gan y cwmni fferyllol Ewropeaidd yn cael ei gefnogi gan y Gronfa Gweithgynhyrchu Arloesol Gwyddorau Bywyd.
-
Daw’r cyhoeddiad wrth i Ysgrifennydd Cymru gyflwyno rhaglen newydd i hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd-eang.
Mae £23 miliwn yn cael ei fuddsoddi a mwy na 40 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y sector gwyddorau bywyd sy’n tyfu yng Nghymru.
Bydd cleifion ledled y DU yn gallu cael mynediad mwy dibynadwy at feddyginiaeth hanfodol gyda buddsoddiad gan Norgine, cwmni fferyllol arbenigol blaenllaw yn Ewrop, sy’n cynhyrchu meddyginiaeth hanfodol yn ei gyfleuster yn Hengoed yng Nghaerffili.
Cyhoeddodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y byddai’r cwmni’n ehangu wrth ymweld â’r cwmni ddydd Iau 5 Mawrth.
Bydd y buddsoddiad o £23 miliwn yn ehangu gofod cynhyrchu a warysau i ateb y galw cynyddol, yn ogystal â chreu 44 o swyddi newydd. Mae hyn wedi cael ei ddatgloi gan y Gronfa Gweithgynhyrchu Arloesol Gwyddorau Bywyd (LSIMF), un o gonglfeini ymrwymiad Llywodraeth y DU i gryfhau’r sector iechyd ac un o’r chwe phrif ymrwymiad yng Nghynllun y Sector Gwyddorau Bywyd. Mae’r Gronfa Gweithgynhyrchu Arloesol Gwyddorau Bywyd yn werth hyd at £520 miliwn, ac mae’n parhau i ddenu cwmnïau arloesol a phrosiectau trawsnewidiol i’r DU.
Mae’r sector gwyddorau bywyd sy’n tyfu yng Nghymru eisoes yn cynhyrchu mwy na £3.5 biliwn mewn trosiant bob blwyddyn ac yn cyflogi dros 13,000 o bobl ar draws mwy na 250 o gwmnïau yn 2023/24.
Mae Hengoed yn rhan o glwstwr yn Ne Cymru sydd wedi’i gydnabod yn y Cynllun Sector Gwyddorau Bywyd am ei gryfderau sylweddol a’i gyfraniad at dirwedd gwyddorau bywyd y DU, gyda chefnogaeth Strategaeth Ddiwydiannol fodern ehangach Llywodraeth y DU.
Daw’r cyhoeddiad diweddaraf hwn wrth i Ysgrifennydd Cymru gadarnhau y bydd Swyddfa Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar raglen ryngwladol newydd i fanteisio ar lwyddiant presennol y genedl ym maes masnach a buddsoddiad a’i ddatblygu ymhellach.
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae gennym sector gwyddorau bywyd ffyniannus yng Nghymru, ac mae’r buddsoddiad hwn gan Norgine yn dangos hyder yn ein gweithlu yng Nghymru. Rwyf wrth fy modd bod cyllid Llywodraeth y DU yn cefnogi’r busnes i barhau i dyfu a chreu swyddi newydd sy’n talu’n dda.
Mae Norgine yn enghraifft wych o fusnes rhyngwladol sy’n ffynnu yng Nghymru. Gyda’n rhaglen ryngwladol newydd, rydym yn mynd i adeiladu ar lwyddiannau fel hyn i ddenu hyd yn oed rhagor o fuddsoddiad a fydd yn creu cyfleoedd ledled Cymru.
Dywedodd Janneke van der Kamp, Prif Swyddog Gweithredol o Norgine:
Mae cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir bwysig i Norgine ac i’n tîm yn Hengoed.
Mae gennym dros 60 mlynedd o dreftadaeth gweithgynhyrchu balch yng Nghymru, a bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau ein gallu i gyflenwi meddyginiaeth hanfodol yn ddibynadwy ar yr un pryd â chreu swyddi o ansawdd uchel i’r dyfodol.
Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i Gymru, nid yn unig drwy ein hôl troed gweithgynhyrchu ond hefyd drwy ddatblygu doniau lleol mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd a cholegau rhanbarthol.
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Swyddfa Gwyddorau Bywyd Llywodraeth y DU, sy’n atgyfnerthu’r rôl hanfodol y mae Cymru’n ei chwarae yn sector gwyddorau bywyd y DU.
Mae Cymru eisoes yn cystadlu â’r goreuon ym maes masnach a buddsoddiad rhyngwladol, gan ddenu bron i 5% o’r holl brosiectau mewnfuddsoddi yn y DU a chreu mwy na 2,000 o swyddi yn 2024/25 yn unig.
Yn nerbyniad blynyddol Dydd Gŵyl Dewi Swyddfa Cymru, a gynhaliwyd yn Stiwdio Blaidd yng Nghaerdydd, lansiodd Jo Stevens raglen benodol o weithgareddau masnach a buddsoddiad rhyngwladol i wella enw da Cymru ac i ddenu mwy fyth o fuddsoddiad rhyngwladol.
Nodiadau i olygyddion:
Bydd y rhaglen masnach a buddsoddiad yn cynnwys:
-
Gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol i sicrhau cynigion buddsoddi clir a chyson i Gymru.
-
Cyfres o ymweliadau a digwyddiadau tramor wedi’u targedu at farchnadoedd allweddol i hwyluso ac i hyrwyddo masnach Cymru a denu mewnfuddsoddiad.
-
Am y tro cyntaf erioed, cronfa ar gyfer rhwydwaith tramor Llywodraeth y DU i hyrwyddo cyfleoedd masnach a buddsoddiad yng Nghymru yn benodol.