Data Trafodiad mis Mai 2014
Mae'r data a gyhoeddir ar y dudalen hon yn rhoi gwybodaeth ynghylch nifer a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Mai 2014.

- Y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,360,416 o geisiadau
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 317,043 o geisiadau
- Birmingham ar frig y tabl o geisiadau awdurdod lleol gyda 19,593
Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,360,400 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Mai. Mae hyn yn cynnwys 1,311,939 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 360,223 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 582,518 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 173,991 yn chwiliadau a 77,402 yn drafodion am werth.
Ceisiadau fesul rhanbarth
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 317,043 |
Llundain Fwyaf | 260,379 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 151,871 |
De Orllewin Lloegr | 135,018 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 111,399 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 104,672 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 97,825 |
Cymru | 64,034 |
Gogledd Lloegr | 63,261 |
Dwyrain Anglia | 54,778 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 70 |
Ynysoedd Sili | 66 |
Cyfanswm | 1,360,416 |
Tri phrif awdurdod lleol
Tri phrif awdurdod lleol | Ceisiadau |
---|---|
Birmingham | 19,593 |
Dinas Westminster | 18,777 |
Leeds | 15,575 |
Tri phrif gwsmer fesul trafodion am werth
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 1,604 |
Countrywide Property Lawyers | 968 |
O’Neill Patient | 584 |
Tri phrif gwsmer fesul chwiliadau
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
Enact | 6,447 |
Optima Legal Services | 5,140 |
TM Group (UK) Ltd (Search Choice) | 4,620 |
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Mehefin ar ddydd Gwener 21 Gorffennaf 2014 am 11 y bore.
- Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Esboniad o’r termau a ddefnyddir
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol..
- Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o chwiliadau.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 23 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.cofrestrfatir.gov.uk
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov. Dewch o hyd i ni ar LinkedIn, Facebook a’n blog.
Cysylltu
Marion Shelley
Rheolwr y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus
Ffôn: 0300 006 7543
Symudol: 07790 690297