Data Trafodiad mis Mawrth 2015
Mae'r data a gyhoeddir yma yn rhoi gwybodaeth am y niferoedd a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Mawrth 2015.
Ym mis Mawrth 2015:
- y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,479,694 o geisiadau
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 340,799 o geisiadau
- Dinas Westminster ar frig y tabl o geisiadau awdurdodau lleol gyda 24,648 o geisiadau
Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,479,690 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Mawrth. Mae hyn yn cynnwys 1,437,889 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda 320,443 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau); 701,801 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl; 190,308 yn chwiliadau a 72,086 yn drafodion am werth.
Rhanbarth | Ceisiadau |
---|---|
De Ddwyrain Lloegr | 340,799 |
Llundain Fwyaf | 293,900 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 161,768 |
De Orllewin Lloegr | 142,985 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 121,451 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 116,176 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 104,067 |
Gogledd Lloegr | 71,090 |
Cymru | 67,778 |
Dwyrain Anglia | 59,548 |
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 84 |
Ynysoedd Sili | 48 |
Cyfanswm | 1,479,694 |
Tri phrif awdurdod lleol | Ceisiadau |
---|---|
Dinas Westminster | 24,648 |
Birmingham | 22,589 |
Leeds | 17,404 |
Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
---|---|
My Home Move Limited | 1,354 |
Countrywide Property Lawyers | 786 |
O’Neill Patient | 650 |
Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
---|---|
TM Group (UK) Ltd (Search Choice) | 9,166 |
Enact | 7,753 |
Optima Legal Services | 5,103 |
Mynediad i’r set lawn o ddata.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Ebrill ar ddydd Gwener 22 Mai 2015 am 11 y bore yn data.gov.
- Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Esboniad o’r termau a ddefnyddir.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i https://www.gov.uk/land-registry.
- Dilynwch ni ar Twitter a dewch o hyd i ni ar ein blog, LinkedIn a Facebook.
Cysylltu
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344