Datganiad i'r wasg

Gwneud Prydain y lle gorau yn y byd i'r diwydiannau creadigol ffynnu

Lansio Bargen y Sector Diwydiannau Creadigol

  • Bydd mwy na £150 miliwn yn cael ei fuddsoddi ar y cyd gan y llywodraeth a diwydiant i helpu busnesau diwylliannol a chreadigol blaenllaw’r byd i ffynnu fel rhan o’r Fargen Sector nodedig
  • Mae diwydiannau creadigol Prydain yn werth £92 biliwn, yn cyflogi dwy filiwn o bobl ac yn tyfu ddwywaith mor gyflym â gweddill yr economi
  • Bydd y Gronfa Datblygu Diwylliannol Newydd yn gweld dinasoedd a threfi yn cael mynediad at £20 miliwn i fuddsoddi mewn diwydiannau diwylliannol a chreadigol
  • Mae cynlluniau i feithrin a datblygu’r genhedlaeth nesaf o unigolion creadigol yn cynnwys rhaglen yrfaoedd dan arweiniad y diwydiant ac Academi Sgrin Llundain newydd

Mae diwydiannau creadigol blaenllaw Prydain yn bwriadu atgyfnerthu sefyllfa’r wlad fel pwerdy creadigol byd-eang, yn dilyn bargen Strategaeth Ddiwydiannol arloesol newydd a gytunwyd rhwng y Llywodraeth a’r Cyngor Diwydiannau Creadigol (CIC) ar ran y sector.

Fel rhan o Fargen y Sector Diwydiannau Creadigol, i’w chyhoeddi heddiw gan yr Ysgrifennydd Digidol a Diwylliant, Matt Hancock, yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark a Chyd-Gadeirydd y CIC, Nicola Mendelsohn, mae mwy na £150 miliwn yn cael ei fuddsoddi ar y cyd gan y Llywodraeth a diwydiant i helpu busnesau diwylliannol a chreadigol ledled Prydain i ffynnu.

Bydd Cronfa Datblygu Diwylliannol hefyd yn cael ei lansio ar gyfer dinasoedd a threfi i wneud cais am gyfran o £20 miliwn i fuddsoddi mewn mentrau creadigol a diwylliannol. Mae pŵer diwydiannau diwylliannol a chreadigol i hybu twf economaidd yn amlwg ar draws y wlad. Yn Hull, crëwyd bron i 800 o swyddi a buddsoddwyd bron i £220 miliwn yn sectorau twristiaeth a diwylliannol Hull ers i’r ddinas gael ei henwi yn Ddinas Diwylliant y DU 2017. Mae canolfannau creadigol Bryste, fel Temple Quarter Bryste yn darparu miloedd o swyddi mewn busnesau dylunio, cyfryngau a cherddoriaeth.

Nod y Fargen Sector yw dyblu cyfran Prydain o’r farchnad cynnwys trochi, sy’n greadigol a byd-eang, erbyn 2025, y disgwylir iddi fod yn werth dros £30 biliwn erbyn 2025. Er mwyn manteisio ar y cyfle o’r farchnad hon sy’n prysur ehangu, mae’r llywodraeth yn buddsoddi dros £33 miliwn mewn technolegau ymgolli, fel gemau fideo rhith-wirionedd, sioeau celf rhyngweithiol a phrofiadau realiti estynedig mewn twristiaeth.

Mae Prydain eisoes yn arwain y ffordd o ran datblygu technolegau ymgolli. Mae PWC wedi rhagweld y bydd diwydiant rhith-wirionedd y DU yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw ddiwydiant adloniant a chyfryngau arall rhwng 2016 a 2021, gan gyrraedd gwerth o £801 miliwn, ac y bydd 16 miliwn o bensetiau rhith-wirionedd yn cael eu defnyddio yn y DU erbyn 2021.

Mae gwella sgiliau’r genedl wrth wraidd Strategaeth Ddiwydiannol fodern y Llywodraeth ac i sicrhau bod gan y diwydiant y gweithwyr medrus sy’n ofynnol iddynt gyflawni hyn, bydd hyd at £2 filiwn ar gael i roi hwb i becyn sgiliau a arweinir gan ddiwydiant, gan gynnwys rhaglen yrfaoedd greadigol a fydd yn cyrraedd o leiaf 2,000 o ysgolion a 600,000 o ddisgyblion mewn dwy flynedd. Bydd Academi Sgrin Llundain newydd, gyda llefydd ar gyfer hyd at 1000 o fyfyrwyr, hefyd yn agor yn 2019.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae creadigrwydd yn ein gwaed yng Nghymru, ac mae’r diwydiant yn darparu swyddi a chyfleoedd gwerthfawr i filoedd o bobl ledled y wlad.

Bydd cyhoeddiad heddiw yn sicrhau bod y sector yn parhau i ffynnu, gan hybu economi Cymru a chefnogi ein busnesau i barhau i hyrwyddo eu gwaith rhagorol ledled y byd.

Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Matt Hancock:

Mae diwydiannau creadigol Prydain yn bwerdy economaidd a diwylliannol a bydd y cytundeb uchelgeisiol hwn yn sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu wrth i ni adeiladu Prydain sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Bydd ein diwydiannau creadigol yn helpu i ddatblygu talent y dyfodol, yn sicrhau bod pobl yn cael eu gwobrwyo’n iawn am eu cynnwys creadigol ac yn rhoi ein cefnogaeth i’r cwmnïau sydd ei hangen i gystadlu ar y llwyfan byd-eang. Mae miliynau o bobl ledled y byd yn mwynhau ein hallbwn celfyddydol a diwylliannol o’r radd flaenaf ac rydym am i Brydain aros ar flaen y gad yn y sectorau bywiog hyn.

Meddai’r Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark:

Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn ymwneud â datblygu ar ein cryfderau presennol a manteisio ar gyfleoedd y dyfodol. Mae ein diwydiannau creadigol wedi bod, ers canrifoedd, yn enwog yn fyd-eang ac ar flaen y gad o ran arloesi. Dyna pam yr oeddwn yn benderfynol o osod y Diwydiannau Creadigol wrth wraidd ein Strategaeth Ddiwydiannol.

Er mwyn hybu’r arloesedd hwn, rydym ni’n gosod y diwydiannau creadigol wrth wraidd ein Strategaeth Ddiwydiannol uchelgeisiol ac mae’r fargen ar y cyd hon yn foment nodedig i’n perthynas â’r sector hwn sy’n arwain y byd. Trwy gydweithio â phrifysgolion a diwydiant, a thrwy fuddsoddi £150 miliwn, byddwn yn datgloi twf ledled y DU.

Mae’r Fargen yn dystiolaeth o’n hymrwymiad parhaus i’n sector creadigol sy’n arwain y byd, gan sefydlu partneriaeth sy’n gallu adeiladu ar sefyllfa ac enw da’r DU, fel un o’r llefydd mwyaf creadigol yn y byd.

Meddai Nicola Mendelsohn, Cyd-gadeirydd y Cyngor Diwydiannau Creadigol:

Mae’r fargen arloesol hon yn cynrychioli arwydd mawr o ffydd yn ein diwydiannau creadigol, i barhau i ddarparu’r perfformiad economaidd a’r gweithlu o’r radd flaenaf y mae’r DU eu hangen. Edrychwn ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth i wireddu ei manteision llawn a photensial y diwydiannau creadigol ym mhob rhan o’r DU.

Buddsoddi mewn Rhith-wirionedd a Realiti Estynedig

Mae busnesau creadigol yn arloesi yn gyson, gan gydweddu creadigrwydd gyda thechnoleg i ddatblygu cynhyrchion newydd cyffrous a ffyrdd newydd o ymgysylltu â chynulleidfaoedd sy’n tyfu. Er mwyn manteisio ar gyfleoedd y farchnad hon sy’n prysur dyfu, bydd technolegau ymgolli fel gemau fideo rhith-wirionedd, sioeau celf rhyngweithiol a phrofiadau realiti estynedig mewn twristiaeth, yn cael dros £33 miliwn o gyllid gan y llywodraeth. Rhagwelir twf eithriadol ar gyfer y sectorau realiti a gemau fideo yn ystod y pum mlynedd nesaf, gyda disgwyl y bydd gwariant defnyddwyr y DU ar gemau fideo yn cyrraedd £5 biliwn erbyn 2021.

Bydd y Llywodraeth hefyd yn cefnogi Cronfa Gemau’r DU hynod lwyddiannus, gyda £1.5 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, fel y gall ysgogi hwb ychwanegol i entrepreneuriaid ifanc a chreu cynnyrch newydd yn y sector gemau arloesol.

Mae diwydiant gemau fideo y DU eisoes wedi’i sefydlu fel yr un mwyaf yn Ewrop a’r pumed mwyaf yn fyd-eang, a bydd y buddsoddiad hwn yn ysgogi rhagor o dwf.

Ehangu ar stiwdios ffilmiau blaengar

Mae stiwdios ffilmiau ar draws y wlad yn cynyddu eu gallu i fodloni’r galw am ofod cynhyrchu, gan gynnwys gwaith ehangu sy’n werth miliynau o bunnoedd yn Stiwdios Pinewood a Warner Bros, Leavesden, yn ogystal â phrosiectau newydd sylweddol, fel buddsoddiad £100 miliwn Pacifica Ventures yn Barking a Dagenham a Stiwdios Littlewoods, Lerpwl.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae buddsoddiad mewnol yn niwydiannau ffilmiau a theledu uwchraddol Prydain wedi cynyddu dros 100 y cant i wariant cynhyrchu dros £2 biliwn y flwyddyn, a gyda’r amodau cywir, gallai’r ffigur blynyddol ddyblu eto erbyn 2025.

Mae’r Fargen Sector yn dangos hyder busnes ac mae cyfleoedd buddsoddi yn y sector ar eu lefel uchaf erioed. Mae diwydiannau creadigol Prydain yn werth £92 biliwn, yn cyflogi dwy filiwn o bobl ac yn tyfu ddwywaith mor gyflym â gweddill yr economi. Mae’r sector yn cynnwys cerddoriaeth, ffasiwn, dylunio, celfyddydau, pensaernïaeth, cyhoeddi, hysbysebu, gemau fideo a chrefftau.

Mae’r fargen yn cyfrannu at weledigaeth y Strategaeth Ddiwydiannol o swyddi da, y gallu i ennill mwy o gyflog i bawb, a chymunedau ffyniannus ledled Prydain. Ei nod yw datgloi twf yn y dyfodol ar draws Prydain, creu swyddi a datblygu technoleg flaengar y dyfodol. Mae’r diwydiannau creadigol eisoes yn allforio llawer mwy na’u cyfran o’r economi, a bydd twf gartref hefyd yn helpu i roi grym i’r sector wneud camau pellach dramor.

Mae’r ymrwymiadau’n cynnwys:

  • £72 miliwn gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol, gyda £39 miliwn i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau gefnogi wyth partneriaeth ymchwil a datblygiad creadigol ledled Prydain a £33 miliwn i fuddsoddi mewn cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau technoleg ymgolli. Bydd hyn yn cefnogi defnyddiau newydd o rith-wirionedd mewn meysydd fel gemau fideo, sioeau celf rhyngweithiol a phrofiadau realiti estynedig mewn twristiaeth, a fydd yn dal sylw’r byd ac yn dyblu cyfran Prydain o’r farchnad cynnwys trochi, sy’n greadigol a byd-eang, erbyn 2025.
  • £2 filiwn i ymestyn yr ymgyrch ‘Get it Right’ i fynd i’r afael â lladrad ar-lein ac addysgu defnyddwyr ar werth hawlfraint a’u cyfeirio at wefannau dilys.
  • Ysgol newydd am ddim yn Islington gyda lle i 1000 o fyfyrwyr (16+) o bob rhan o’r brifddinas. Bydd cwricwlwm Academi Sgrin Llundain yn cynnwys Diploma Creadigol UAL a Safon Uwch ac fe’i bwriedir i agor ym mis Medi 2019.
  • Gwell mynediad at gyllid gan Fanc Busnes Prydain ar gyfer busnesau creadigol twf uchel y tu allan i Lundain, gyda buddsoddiad o hyd at £4 miliwn mewn rhaglen newydd o gefnogaeth parod am fuddsoddiad i fusnesau creadigol.
  • Bwrdd Masnach a Buddsoddi diwydiannau creadigol newydd, sy’n cynnwys diwydiant a llywodraeth, i ddisodli Grŵp Ymgynghori’r Sector presennol gyda’r uchelgais o gynyddu allforion y diwydiant creadigol o 50 y cant erbyn 2023, a hybu nifer y busnesau creadigol sy’n allforio.
  • Camau newydd i leihau hawlfraint a dorrir. Roedd cod ymarfer nodedig gan y llywodraeth a diwydiant yn 2017 wedi lleihau amlygrwydd safleoedd anghyfreithlon a gododd mewn canlyniadau chwilio. Bydd cyfres o fforymau trafod rhwng deiliaid hawliau a llwyfannau yn ystyried yr angen am ddull tebyg o ran y diwydiant hysbysebu ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, a marchnadoedd ar-lein, yn ogystal â’u datblygiad.

Gan roi sylw ar fargen heddiw ar gyfer y Sector Diwydiannau Creadigol, meddai Josh Berger, Llywydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Warner Bros UK a Chadeirydd y Sefydliad Ffilm Prydeinig:

Mae criwiau anhygoel, cyfleusterau gwych a chefnogaeth uniongyrchol a pharhaus y Llywodraeth ar gyfer y diwydiannau creadigol - trwy sefydliadau fel y Sefydliad Ffilm Prydeinig, a chynhwysiad ffurfiol y sector nawr yn y strategaeth ddiwydiannol - yn hanfodol i ddiwydiant cynhyrchu ffyniannus yn y DU.

Mae profiad Warner Bros yn y DU wedi bod yn un mor gadarnhaol, o ddatblygu cyfleusterau o’r radd flaenaf a helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o dalent greadigol, i’r holl fusnes o gynhyrchu ein ffilmiau yma. Rydym wedi bod yn buddsoddi yn y DU ers sawl blwyddyn oherwydd bod y wlad hon yn ein barn ni, ochr yn ochr â Hollywood, fel y lle gorau yn y byd i wneud ffilmiau.

Meddai John Kampfner, Prif Weithredwr y Ffederasiwn Diwydiannau Creadigol:

Mae’r Fargen Sector Diwydiannau Creadigol yn gam cyntaf i’w groesawu, gan dynnu sylw at y cyfraniad sylweddol y mae ein sector yn ei wneud i arloesedd, cynhyrchiant a thwf y DU. Ond ni all ymrwymiadau’r llywodraeth ddarfod yma. Edrychwn ymlaen at ymrwymiad parhaus wrth gefnogi’r genhedlaeth nesaf o unigolion creadigol a fydd yn sicrhau bod ein diwydiannau creadigol yn parhau i fod ar flaen y gad. I’r perwyl hwn, bydd y Ffederasiwn yn arwain ar Ymgyrch Gyrfaoedd Creadigol i arddangos cyfoeth ac amrywiaeth gyrfaoedd creadigol i bobl ifanc, athrawon, rhieni a gofalwyr ledled y DU. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r llywodraeth i arfogi’r genhedlaeth nesaf ar gyfer gwaith y dyfodol.

Nodiadau i olygyddion

  1. Bydd y Fargen Sector Diwydiannau Creadigol yn cael ei lansio bore fory yn The Roundhouse, Camden. Ffoniwch 0207 211 2210 os hoffech fynychu.
  2. Mae’r cytundeb hwn yn dilyn adolygiad annibynnol Bazalgette, a gyhoeddwyd ym Medi 2017 dan arweiniad Cadeirydd presennol ITV, Syr Peter Bazalgette, a amlinellodd argymhellion allweddol ar sut y gall y Diwydiannau Creadigol ategu at dwf economaidd Prydain yn y dyfodol.
  3. Bargen Sector y diwydiannau creadigol – o’r cytundeb rhwng y llywodraeth a’r diwydiant y cafwyd y Cyngor Diwydiannau Creadigol – sy’n ceisio datgloi twf ar gyfer busnesau creadigol.
  4. Bydd y Gronfa Datblygu Diwylliannol yn cael ei gweinyddu gan Gyngor Celfyddydau Lloegr (ACE).
  5. Mae pob thema o Fargen y Sector yn nodi rhaglen weithredu:

Lle

Y Strategaeth Ddiwydiannol wedi ymrwymo i helpu cymunedau ffyniannus i ffynnu ar draws y wlad. Mae diwydiannau creadigol yn helpu i gyflawni’r amcan hwn oherwydd eu bod yn rhoi hunaniaeth gref i lefydd, yn ogystal â hybu cyflogaeth a thwf. Er bod ymchwil wedi nodi rhyw 47 o glystyrau gyda busnesau creadigol ledled Prydain, mae bron i hanner y busnesau creadigol wedi’u crynhoi yn y brifddinas a de ddwyrain Lloegr. Buddsoddiad newydd gan y Llywodraeth a chefnogaeth diwydiant i glystyrau diwydiant creadigol blaenllaw gyda’r potensial i gystadlu’n fyd-eang - gan hybu prosiect Prydain Fyd-eang i’r byd.

Syniadau

Mae’r fargen yn helpu i ysgogi arloesedd drwy fuddsoddiad cyhoeddus a diwydiant ar y cyd mewn wyth partneriaeth o fusnes a phrifysgolion, gyda chefnogaeth canolfan ymchwil genedlaethol, ac ymrwymiad i ymchwilio i rwystrau i fusnesau creadigol sy’n cymryd cyllid ymchwil a datblygu. Mae hefyd yn addo buddsoddiad ar y cyd mewn her arloesi strategol i drawsnewid cynnwys creadigol: technolegau ymgolli fel Rhith-wirionedd, Realiti Estynedig a Chymysg.

Amgylchedd Busnes

Mae busnesau creadigol yn sionc, yn tyfu’n gyflym ac yn allforio yn fyd-eang - ond maent hefyd yn wynebu rhwystrau rhag cyflawni drwy fod yn effeithlon. Mae methiannau cydnabyddedig yn y farchnad o ran mynediad at gyllid, yn enwedig y tu allan i Lundain. Mae’r Fargen Sector hon yn nodi mesurau i’w gwneud yn haws i fusnesau creadigol gael y cyllid sydd ei angen arnynt i dyfu, a sut y bydd diwydiant a llywodraeth yn creu partneriaeth newydd i wireddu mwy o werth ac effaith drwy gefnogaeth gyhoeddus i allforion - wrth i ni ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â gadael yr UE. Mae hefyd yn ceisio diogelu hawlfraint a mynd i’r afael â throsglwyddo gwerth o’r diwydiannau creadigol.

Pobl

Mae Prydain yn meddu ar sgiliau a thalent o’r radd flaenaf ar draws y diwydiannau creadigol. Mae’r fargen hon yn nodi sut mae’r llywodraeth a’r diwydiant yn cymryd camau i oresgyn y rhwystrau presennol i gael mynediad, yn ogystal â mynd i’r afael ag anghenion sgiliau yn y dyfodol; o wella dealltwriaeth o’r sector ymhlith myfyrwyr, rhieni ac athrawon trwy raglen yrfaoedd sylweddol, i fonitro’r nifer sy’n manteisio ar brentisiaethau a sicrhau bod safonau prentisiaethau ar gyfer rolau a nodir yn bwysig i’r Strategaeth Ddiwydiannol, yn cael eu blaenoriaethu.

Cyhoeddwyd ar 28 March 2018