Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Gwent yn canmol ei gadetiaid am fod yn llysgenhadon gwych i’w sefydliadau

Mae Arglwydd Raglaw ei Mawrhydi yng Ngwent, y Brigadydd Robert Aitken CBE, wedi talu teyrnged i’w gadetiaid sy’n gorffen eleni mewn seremoni rithiol, yn ogystal â chroesawu ei gadetiaid newydd a benodwyd ar gyfer 2022.

Military man smiling against country backdrop

Lord-Lieutenant of Gwent Awards.

Roedd y Brigadydd Aitken yn canmol ei gadetiaid am allu siarad yn ddewr ac yn hyderus â phob math o bobl, nid dim ond am eu hunain ond am eu sefydliadau cadetiaid.

Roedd cadetiaid yr Arglwydd Raglaw llynedd nid yn unig wedi gallu dod i’m cefnogi mewn digwyddiadau swyddogol fel ymweliadau brenhinol a chyflwyniadau medalau, ond roedden nhw hefyd yn llysgenhadon ar ran eu sefydliadau eu hunain drwy sgwrsio â phobl. Gallan nhw gynnal sgwrs ag aelodau cyffredin o’r cyhoedd neu gyda meiri, Aelodau Seneddol ac Aelodau o’r Senedd. Da iawn nhw a diolch.

Llongyfarchodd y Brigadydd Aitken ei gadetiaid newydd ar eu penodiad a dywedodd wrthynt eu bod wedi cael eu dewis ar gyfer y rôl fel ‘y cadetiaid gorau o’u plith.’ Wrth siarad yn ei seremoni wobrwyo a gynhaliwyd ddydd Iau 10 Chwefror, roedd y Brigadydd hefyd yn canmol gwaith y Lluoedd Wrth Gefn am eu hymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i’r Lluoedd Wrth Gefn ar draws Gwent a ledled Cymru, gyda’r lluoedd arfog yn brysur yn cael eu lleoli ar weithrediadau yn y byd ansefydlog hwn. “Mae aelodau o’r Lluoedd Wrth Gefn naill ai wedi bod yn gwasanaethu ochr yn ochr â swyddogion y Lluoedd Arfog, neu wedi bod yn cymryd eu lle fel bod y swyddogion rheini’n gallu mynd ar weithrediadau. Ac wrth gwrs, mae Covid wedi bod yn gefndir parhaus i hyn i gyd, gydag aelodau o’r Lluoedd Wrth Gefn yn cymryd rhan weithredol yn y frwydr yn erbyn y clefyd hwn sy’n difetha ein bywydau gymaint.

Cafodd chwe pherson ifanc yn eu harddegau eu penodi i rôl cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer 2022, sef Abl Gadét Kaitellyn Summerhayes o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd; Sarjant Cadét Staff, Jake Thomas o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys; Sarjant Cadét Hamish Nicoll o Lu Cadetiaid Gwent a Phowys; Sarjant Hedfan y Cadetiaid Iestyn Jones o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid Awyr RAF, Sarjant Cadét William Cocking o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid Awyr RAF a Sarjant Cadét Hayley Gabica o Lu Cadetiaid Cyfun Llanwern.

Mae’r rôl, sy’n para am flwyddyn, yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Brigadydd. Mae’r Brigadydd yn gweithredu fel cynrychiolydd y Frenhines mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Coffáu, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau. Mae Abl Gadét Kaitellyn Summerhayes o Gasnewydd yn gweithio’n galed i fod y cadét gorau posib ac mae’n annog eraill i wneud yr un peth. Ymunodd Sarjant Cadét Staff, Jake Thomas o Dredegar, pan oedd yn fachgen deuddeg oed. Roedd ei gariad at gerddoriaeth filwrol yn amlwg o’r dechrau.

Yn ystod yr haf, dangosodd Sarjant Cadét Hamish Nicholl ei werth trwy helpu cadét arall a oedd yn dioddef o anhwylder meddygol gan sicrhau ei bod yn cael y gofal angenrheidiol.

Mae Sarjant Hedfan y Cadetiaid Iestyn Jones o Gwmbrân yn swyddog heb ei gomisiynu sy’n arwain, yn ysbrydoli ac yn cymell pawb sy’n cwrdd ag ef.

Mae’r Sarjant Cadét William Cocking o Gasnewydd yn gadét ymroddedig a brwdfrydig sydd wedi bod yn weithgar ar lefel sgwadron, lefel adain ac yn rhanbarthol, a hynny mewn sawl agwedd ar fywyd cadetiaid. Y tu allan i’r cadetiaid, mi wnaeth gasglu £1,161 i elusen Gofal Hosbis Dewi Sant drwy gerdded 26 milltir mewn un diwrnod.

Dangosodd Sarjant Cadét Hayley Gabica o Gasnewydd ymrwymiad mawr, nid yn unig drwy barhau i orymdeithio’n rhithiol yn ystod y cyfyngiadau symud, ond hefyd drwy roi gwersi a chyflwyniadau i gadw’r cadetiaid iau yn frwdfrydig.

Bydd y cadetiaid yn dilyn ôl troed y Swyddog Cadét â Gwarant Piotr Dabski o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid Awyr RAF, y Swyddog Cadét â Gwarant Katie Mavroud-Stephens o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid Awyr RAF; Sarjant Cadét Max Pullen o Lu Cadetiaid Cyfun Llanwern a’r Cadét Is-gorporal Edward Neck o Lu Cadetiaid Cyfunol Trefynwy. Dyfarnwyd tystysgrif a bathodyn yr Arglwydd Raglaw iddynt am fod yn gynrychiolwyr 2021.

Cafodd pum person eu cydnabod am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, a dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod Arglwydd Raglaw iddynt. Roedd y rhain yn cynnwys Is-gorporal James Andrews o’r Cymry Brenhinol 3, Capten Kim Smith o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys, a Mrs Irene (Ann) Bowen o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd.

Er mai aelod wrth gefn ydyw, roedd gallu cerddorol ardderchog yr Is-gorporal Andrews yn golygu ei fod wedi cael ei ddewis i chwarae ym Mand Pres Byddin Prydain. Nid yw Capten Smith o Gasnewydd byth yn siomi neb ac mae’n canolbwyntio ar sicrhau bod gwirfoddolwyr a chadetiaid sy’n oedolion yn cael profiad llawn o fod yn gadét, ac yn ymdrechu i wireddu eu breuddwydion.

Roedd trysorydd gwirfoddol Cadetiaid Môr Casnewydd, Mrs Bowen o Gasnewydd, wedi bod yn allweddol yn ystod y cyfyngiadau symud i sicrhau £100,000 o gyllid ar gyfer gwaith adnewyddu i adeilad yr uned. Yn anffodus, wrth i’r uned gael ei hadnewyddu, cafodd ei tharo gan lifogydd gan ddadwneud misoedd o waith a dinistrio llawer iawn o offer.

Bu Mrs Bowen wrthi’n ddyfal yn ysgrifennu llythyrau, anfon negeseuon e-bost a chynnal galwadau ffôn di-ri i gael gafael ar y cymorth a’r offer yr oedd eu hangen ar yr uned i ailagor.

Cafodd dau oedolyn a oedd yn gwirfoddoli yn Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid Awyr RAF, yr Arweinydd Sgwadron Kenneth Lavender ac Awyr Lefftenant Wayne Clark, Dystysgrifau Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw hefyd.

Bu’r Arweinydd Sgwadron o Gasnewydd yn gweithio’n eithriadol o galed yn ystod y pandemig i sicrhau nad oedd ei sector yn dioddef yn ddiangen yn ystod y cyfnod clo. Aeth yr Awyr Lefftenant Clark o Abertyleri ati i drawsnewid Sgwadron 2167 Tredegar, a oedd wedi ei glustnodi ar gyfer ei gau, i fod yn un o’r unedau cryfaf yn Adain Gymreig Rhif 1.

Mae bron i 5,000 o Gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau. Cafodd y digwyddiad gwobrwyo rhithiol ei drefnu a’i ddarlledu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 16 February 2022