Datganiad i'r wasg

Yr Arglwydd Bourne: “Mae’r Bathdy’n enghraifft loyw o lwyddiant allforio byd-eang”

Gweinidog Llywodraeth y DU yn ymweld â’r Bathdy Brenhinol i gefnogi gweithgarwch tramor cynyddol

Bydd Gweinidog Llywodraeth y DU yr Arglwydd Bourne yn ymweld â phencadlys y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn ddiweddarach heddiw (19 Ebrill) fel rhan o ymgysylltu parhaus gyda’r cwmni cynhyrchu darnau arian sydd ym mherchnogaeth Trysorlys EM.

Agorwyd y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn 1968 ac mae bellach yn cyflogi dros 850 o staff ar draws ei safle 35 acer. Cafodd y Prif Weithredwr a’r Dirprwy Feistr cyfredol, Anne Jessop, ei phenodi’n gynharach eleni a hi yw’r fenyw gyntaf i ddal y swydd hon yn hanes y Bathdy sy’n ymestyn yn ôl dros 1,100 o flynyddoedd.

Prif swyddogaeth y Bathdy yw cynhyrchu darnau arian y DU, darnau plaen (y disgiau metel sy’n cael eu bathu’n arian) a medalau swyddogol. Mae’r cwmni yn anelu at ddarparu elw i Lywodraeth y DU drwy ei weithgareddau masnachol, ac mae wedi cynhyrchu darnau arian a medalau ar gyfer oddeutu 60 o wledydd y tu allan i’r DU.

Bydd yr Arglwydd Bourne yn cadarnhau cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i brif fathdy allforio’r byd drwy gefnogi datblygu ei weithgarwch tramor a’i fentrau busnes newydd.

Ar hyn o bryd mae gan y bathdy gyfran o 15 y cant o’r farchnad fyd-eang ac mae’n caniatáu i gwsmeriaid fasnachu mewn bwliwn (aur, arian a phlatinwm) ar ffurf darnau arian a bariau, gan ei storio yn ei safle storio diogel ei hun ( Y Gell). Mae’r safle yn Llantrisant hefyd yn gartref i Brofiad y Royal Mint, a agorodd yn 2016.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yr Arglwydd Bourne:

Mae’r Bathdy Brenhinol yn ased hollbwysig sy’n ychwanegu gwerth at economi De Cymru; yn cyflogi cannoedd o staff, yn denu miloedd o ymwelwyr i’w atyniad twristaidd bob blwyddyn ac yn rhoi Cymru ar y map drwy ei weithgarwch helaeth mewn gwledydd tramor.

Wrth i Brydain baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fu erioed amser gwell i ystyried cyfleoedd newydd ar gyfer masnachu ac allforio ymhellach i ffwrdd. Bydd Llywodraeth y DU yn cefnogi pob busnes Cymreig sy’n awyddus i chwilio am farchnadoedd tramor newydd.

Dywedodd Anne Jessop, Prif Swyddog Gweithredol y Bathdy:

Rwy’n falch iawn i groesawu’r Arglwydd Bourne i weld sut y gall y Bathdy Brenhinol weithio gyda’r Llywodraeth a phartneriaid eraill i ganfod cyfleoedd busnes newydd yn y DU a thu hwnt.

Mae’r Bathdy Brenhinol yn frand Prydeinig sydd wedi hen sefydlu. Wrth i’r farchnad ar gyfer rhai o’n cynhyrchion traddodiadol newid, rydym yn adeiladu ar ein henw da o ran ymddiriedaeth a dilysrwydd i symud i feysydd busnes newydd a chyffrous. Rydym yn canolbwyntio ar arloesi a phartneriaeth ar draws portffolio o gynnyrch, gan sicrhau bod y Bathdy Brenhinol yn parhau’n fusnes cynaliadwy a pherthnasol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Cynyddodd allforion o Gymru gan 12.3% i £16.4 biliwn yn y ffigurau diweddaraf o flwyddyn i flwyddyn, ac mae Cymru’n gartref i bron i 4,000 o allforwyr gyda chyfartaledd gwerth o dros £4.2 miliwn fesul allforiwr.

Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu Canllaw Allforio Cymru - dogfen sy’n nodi’r amrywiaeth lawn o gymorth sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru gan Lywodraeth y DU, ac mae’n cynnwys storïau i ysbrydoli am gwmnïau o Gymru sy’n allforio’n llwyddiannus.

Gallwch lawrlwytho copi o’r canllaw yma.

Cyhoeddwyd ar 19 April 2018